Newyddion

Coffau Diwrnod y Llynges Fasnachol gan y Cyngor

Wedi ei bostio ar Wednesday 30th August 2017

Bydd seremoni codi baner i goffau Diwrnod y Llynges Fasnachol yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd ddydd Gwener 1 Medi.

Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 10am a bydd yn cynnwys bendith codi baner a seremoni godi a bydd y Maer, y Cynghorydd David Fouweather yn darllen.

Bydd Is Arglwydd Raglaw Gwent, Is-gyrnol Andrew Tuggey yn traddodi neges gan lywydd Llynges Fasnachol y DU, EF Iarll Wessex .

Bydd Alan Speight o Gymdeithas Llynges Fasnachol Casnewydd yn codi’r faner.

Bydd aelodau’r lluoedd arfog, cynghorwyr a staff y Cyngor hefyd yn bresennol ac mae croeso i’r cyhoedd ymuno yn y gwasanaeth.

Mae Casnewydd yn cefnogi galwad cenedlaethol gan elusen Seafarers UK a Chymdeithas y Llynges Fasnachol am chwifio’r faner ar wyliau cyhoeddus ac ar byst baneri pwysig.

Mae’r Cyngor, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill yn y DU yn cynnal seremoni i goffau Diwrnod y Llynges Fasnachol, sydd ar 3 Medi yn swyddogol.

Bydd y gwasanaeth yn anrhydeddu gwŷr a merched dewr a fu’n cynnal ynys Prydain yn ystod y ddau Ryfel Byd ac yn dathlu ein dibyniaeth ar forwyr masnachol cyfoes sy’n mewnforio 95 y cant o'r hyn a ddaw i’r DU yn cynnwys llawer o’r bwyd rydym yn ei fwyta, y tanwydd rydym yn ei losgi a bron bob cynnyrch rydym yn ei ddefnyddio bob dydd.

Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod y Llynges Fasnachol, ewch i www.merchantnavyfund.org

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.