Newyddion

Busnesau lleol yn cefnogi diwrnod allan blasus Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 18th August 2017
FoodFestSponsors-48

Mae gŵyl fwyd boblogaidd Casnewydd yn dychwelyd y mis Hydref hwn gyda llwyth o ddigwyddiadau ac arddangoswyr fydd yn dod â dŵr i'ch dannedd.

Diolch i gefnogaeth busnesau a sefydliadau lleol, bydd rhaglen o arddangosiadau gan gogyddion, adloniant cystadlaethau a mwy na 70 stondin yng Ngŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd - ac mae hyn yn oed fwy ar y gorwel.

Mae bragdy penigamp Casnewydd, Tiny Rebel, yn dychwelyd fel y prif noddwr ar gyfer yr ail flwyddyn.

Yn 2016, helpon nhw i godi proffil yr ŵyl gan roi hwb i elfen yfed y digwyddiad - eu bar Tiny Rebel ar y Stryd Fawr yng nghanol safle'r ŵyl fwyd.

Eleni, gan fod eu hail safle yng Nghasnewydd ar agor yn Nhŷ-Du erbyn hyn, byddant yn cynnal nifer o ddigwyddiadau allweddol gan gynnwys cinio nodedig yr Ŵyl.

Yn ogystal bydd cogydd gweithredol Brewery Bar, Rickie Ash, yn coginio bwyd blasus mewn arddangosiad yn ystod yr ŵyl.

Meddai Bradley Cummings o Tiny Rebel: "Rydym yn fusnes balch yng Nghasnewydd a ddangosir gydag ein hehangiad lleol diweddar.

"Mae'n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r ddinas a chefnogi'r ŵyl sydd â rhywbeth at ddant pawb."

Mae'r noddwyr tro cyntaf Newport Now, Rhanbarth Gwella Busnes y ddinas, yn cefnogi lleoliad yng nghanol yr ŵyl - oriel Marchnad Casnewydd.

Bydd Parth Newport Now yn cynnal arddangosiadau cogydd trwy gydol y diwrnod a bydd cystadleuaeth goginio yn ei hôl yno hefyd. Y llynedd, cynhaliwyd Brwydr y Byrgyrs - mae'n bosibl y bydd 2017 yn dod â her â thema peis!

Mae Celtic Manor eto'n noddi'r gystadleuaeth boblogaidd Teenchef a fydd hefyd yn cael ei chynnal ym Mharth Newport Now lle y gallwch wylio'r genhedlaeth newydd o gogyddion gystadlu. Bydd cogydd nodedig o westy pum seren yng Nghasnewydd hefyd yn rhannu ei arbenigedd yn rhan o'r arddangosiadau.

Mae'r Golden Lion, Magwyr, hefyd yn dychwelyd fel noddwr ar gyfer yr ail flwyddyn. Mae'r Golden Lion, a leolir yn sgwâr pentref hanesyddol Magwyr, a'r ŵyl yn rhannu ethos o fwyd a diod lleol ardderchog ac adloniant gwych. Bydd y prif gogydd, Dion Tidmarsh, yn rhannu nifer o'r hoff brydau bwyd mewn arddangosiad.

 

Meddai'r Cynghorydd Mark Whitcutt, Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae Gŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd yn ddigwyddiad gwych yn y ddinas. Daeth 14,000 o bobl i ymuno â ni y llynedd ac rydym yn gobeithio gweld hyd yn oed fwy o bobl yn mwynhau'r digwyddiadau, yr adloniant a phopeth sydd ar gynnig eleni.

"Heb haelioni a chymorth y busnesau lleol hyn, ni fyddai'n bosibl i'r ŵyl, sy'n ddiwrnod allan gwych i'r teulu, fod mor llwyddiannus.

"Diolchwn iddynt ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau mai 2017 yw'r flwyddyn orau eto."

Caiff Gŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd ei chynnal ar Ddydd Sadwrn 7 Hydref. Bydd y prif weithgareddau yn y Stryd Fawr, Sgwâr Westgate a Marchnad Casnewydd.

I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ŵyl ewch i:

www.newportfoodfestival.co.uk

www.facebook.com/newportfoodfestival

@NewportFoodFest

Am fwy o wybodaeth am noddwyr yr ŵyl ewch i:

www.tinyrebel.co.uk

www.newportnow.co.uk

www.thegoldenlionmagor.co.uk

www.celtic-manor.com

                                

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.