Newyddion

Buddsoddiad ar y cyd yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol

Wedi ei bostio ar Friday 18th August 2017

Mae cynnig yn cael ei ystyried i ddefnyddio arian adnewyddu Casnewydd i gynorthwyo cadw cwrs prifysgol uchel ei glod.

Bydd y Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adnewyddu a Thai yn gwneud penderfyniad ar grant o £575,000 i'r Academi yn dilyn ymgynghoriad â'r holl aelodau.

Bydd y Cyngorydd Mark Whitcutt, Aelod Cabinet dros Asedau a Datblygu Aelodau yn gwneud penderfyniad arall ynghylch isosod tri llawr yn yr Orsaf Wybodaeth i'r Academi yn dilyn ymgynghoriad tebyg.

Mae'r Academi, sy'n rhan o Brifysgol Caerdydd wedi bod mewn adeilad ger Gorsaf Drenau Casnewydd ers ei lansio yn 2015, ond nid ydy'r adeilad hwnnw'n ddigon mawr ar gyfer yr ehangu sydd ar gynllun.

Mae'n strategol bwysig i uchelgais y ddinas o ddatblygu fel hyb technoleg wrth i'r Academi ddenu buddsoddiad trwy greu graddedigion o safon ryngwladol. Dros y 12 mis diwethaf, mae dros 120 o gwmnïau wedi bod yn ymwneud â'r Academi.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru wedi cronni £2.6 miliwn hyd yn hyn o ganlyniad i fentrau ar y cyd a chytunodd y ddau y dylid gwario hyn ar weithgareddau adfywio economaidd yng Nghasnewydd.

Cynigir talu £575,000 o'r gronfa arian hon. Bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn buddsoddi £575,000.

Bydd hyn yn sicrhau dyfodol a thwf yr Academi yng Nghasnewydd yn yr hirdymor, yn hytrach na'i hadleoli i Gaerdydd, gyda'r Brifysgol yn buddsoddi tua £2 filiwn bob blwyddyn dros y 10 mlynedd nesaf.

Bydd hefyd yn diogelu 10 swydd dda ac yn creu chwe arall, yn dod ag o leiaf 60 myfyriwr israddedig ac 20 myfyriwr MSc bob blwyddyn, yn cynorthwyo hyd at 20 project busnes bob blwyddyn ac yn helpu i dyfu clwstwr technoleg bywiog yn y ddinas.

Bydd symud i'r Orsaf Wybodaeth yn cyd-daro â'r Academi yn symud i un llawr tua diwedd y flwyddyn.

Er y byddai'n rhaid i rai o staff y Cyngor sy'n gweithio yn yr Orsaf Wybodaeth symud i adeiladau eraill y Cyngor, byddai'r gwasanaethau "wyneb yn wyneb" ar gyfer preswylwyr yn parhau yn y dyfodol agos.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.