Gwahoddiad i chwilio cefn gwlad gyda'r arbenigwyr
Wedi ei bostio ar Monday 7th August 2017
Ganolfan Gamlas Fourteen Locks
Mae Cyngor Dinas Casnewydd ar y cyd â staff o Ganolfan Gamlas Fourteen Locks yn cynnal digwyddiadau sy’n ddelfrydol ar gyfer pobl sydd am darganfod mwy am gefn gwlad gerllaw iddynt.
Cynhelir Taith Gerdded Bywyd Gwyllt ar Ddydd Mawrth 15 Awst o 10am tan 12.30pm pan fydd yr arbenigwr bywyd gwyllt Roger James a staff o Ganolfan Gamlas Fourteen Locks, yn cynnal taith gerdded hamddenol ar hyd llwybr tynnu’r gamlas.
Bydd y digwydd am ddim hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu am blanhigion a bywyd gwyllt ar hyd y ffordd. Cyfarfod y tu allan i’r ganolfan a gwisgo esgidiau cadarn a dewch a dillad rhag glaw a diod.
Am fwy o wybodaeth ar y digwyddiad hwn ffoniwch 01633 892167, e-bostiwch [email protected] neu ewch i ymweld â http://fourteenlocks.mbact.org.uk/index.php/events-blog/113-wildlife-walk
Mae’r ail ddigwyddiad yn addas i blant chwech oed neu hŷn lle gall y rhai ifanc ymuno ag Arweinwyr Ysgol Goedwig y cyngor yn ysgol goedwig Fourteen Locks, sydd newydd ei adeiladu, ar Ddydd Mercher 23 Awst.
Mae dwy sesiwn, un o 10am tan hanner dydd a’r ail o 1pm tan 3pm. Mae croeso i rieni adael eu plentyn gyda’n arweinwyr hyfforddedig ar gyfer y sesiynau dwy awr.
Y gost yw £3 y plentyn ac mae ‘n hanfodol cadw lle am fod llefydd yn brin.
Sicrhewch fod eich plentyn yn gwisgo esgidiau cadarn, hen ddillad, dillad rhag dŵr ac eli haul a'i fod yn dod â diod a byrbryd.
Mae ysgol y goedwig yn daith gerdded byr tri munud o'r caffi a'r ganolfan a bydd y plant yn dysgu am natur a'r amgylchedd ac hyd yn oed yn cael malws melys i'w tostio dros dân agored.
Am fwy o wybodaeth ar ysgol y goedwig ewch i http://fourteenlocks.mbact.org.uk/index.php/events-blog/112-forest-school
I gadw lle ffoniwch 01633 892167 neu e-bostiwch [email protected]