Newyddion

Cyhoeddi adolygiad dynladdiad domestig

Wedi ei bostio ar Friday 25th August 2017

Mae Casnewydd yn Un, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y ddinas, wedi cyhoeddi ei adolygiad dynladdiad domestig (ADD) cyntaf yn dilyn marwolaeth menyw ifanc yn 2014.

Cafodd y fenyw 21 oed, y cyfeirir ati fel Oedolyn A yn yr adroddiad, ei llofruddio gan ei chariad, Oedolyn B, a gafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar.

Mae ADDau yn ofyniad cyfreithiol, ac yng Nghasnewydd yn gyfrifoldeb ar bartneriaeth Casnewydd yn Un. Comisiynwyd adolygiad annibynnol gan Tony Blockley ac fe’i cyhoeddwyd ar ôl i’r Swyddfa Gartref gytuno arno.

Mae ADD yn ystyried yr amgylchiadau a arweiniodd ar farwolaeth person 16+ oed yn sgil trais, camdriniaeth neu esgeulustod gan berthynas, partner neu gyn-bartner neu aelod o’r un aelwyd.

Mae’n galluogi cyrff cyhoeddus a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol perthnasol i nodi lle gallai ymatebion i’r sefyllfa fod wedi’u gwella.

Yn yr achos hwn, roedd Oedolyn A yn oedolyn agored i niwed a oedd wedi bod mewn perthynas ag Oedolyn B am dri mis pan ddigwyddodd y drychineb.

Er bod yr adroddiad yn dweud nad oedd unrhyw beth wedi dod i’r amlwg yn ystod yr adolygiad i awgrymu y gellid bod wedi rhagweld neu atal marwolaeth Oedolyn A, gwnaed argymhellion ar gyfer gwella yn genedlaethol ac yn lleol.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Matthew Williams, Arweinydd Diogelwch a Chydlyniant Casnewydd yn Un: “Hoffai pawb yn Casnewydd yn Un gydymdeimlo â theulu’r menyw ifanc a gollodd ei bywyd yn rhy fuan o lawer.

“Mae adolygiadau dynladdiad domestig yn bwysig oherwydd drwy dynnu sylw at le gall cyrff cyhoeddus wella eu hymatebion, gallwn geisio atal trychinebau tebyg yn y dyfodol. Rydyn ni’n cymryd yr argymhellion o ddifri, ac rydyn ni wedi gweithredu.”

Mae copi o’r adolygiad i’w weld yn Domestic Homicide Review

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.