Newyddion

Casglu sbwriel ac ailgylchu yn ystod Gŵyl y Banc ym mis Awst

Wedi ei bostio ar Wednesday 23rd August 2017
bin lorry

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn casglu sbwriel a gwastraff gardd ar y dyddiau arferol yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 28 Awst.

Bydd Wastesavers yn casglu ailgylchu ymyl y ffordd ar y diwrnodau arferol yr wythnos honno.

Fel arfer, mae casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn ddiweddarach yn dilyn gŵyl y banc.

Ond, yn dilyn treial yn ystod gŵyl y banc ym mis Mai penderfynwyd cadw y casgliadau fel na effeithir arnynt gan ŵyl y banc ym mis Awst.

Mae'n golygu y bydd timau casglu gwastraff y cyngor a Wastesavers yn gweithio ddydd Llun 28 Awst ar gyfer y tai hynny sydd fel arfer yn rhoi eu gwastraff allan i'w gasglu ar ddydd Llun, ac felly hefyd weddill yr wythnos.

Mae hyn yn golygu y bydd casgliadau’n digwydd ar ddydd Gwener fel arfer, yn hytrach nag ar ddydd Sadwrn fel a fu’n digwydd ar ôl gŵyl y banc.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd ac Wastesavers wedi penderfynu ar y newid gweithredol hwn gan y gweithiodd mor dda dros yr ŵyl ddiwethaf.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau gwastraff ac i weld pryd mae’r casgliad yn eich ardal chi ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Waste-Recycling/Waste-Recycling.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.