Newyddion

Canlyniadau Lefel A

Wedi ei bostio ar Friday 18th August 2017

Mae crynodeb o ganlyniadau “ar y diwrnod” heb eu cadarnhau yn dangos bod y canlyniadau Lefel A ar drothwy Lefel 3 o 2 Lefel A A*-E wedi lleihau yng Nghasnewydd eleni. Noder y gall y canlyniadau hyn newid cyn bod y canlyniadau terfynol ar gael.

Cyrhaeddodd 96.5% o ddisgyblion drothwy Lefel 3, lleihad o 1.2% ers ffigwr y llynedd o 97.7%. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys canlyniadau pob bwrdd arholi.

Gwelwyd lleihad o 9.8% yn nifer ymgeiswyr CBAC Casnewydd ers y llynedd, o’i gymharu â lleihad o 6.3% dros Gymru gyfan.

Mae’r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau bwrdd arholi CBAC yn unig:

Canran y rhai hynny enillodd A*-A yw 19.7%, lleihad ar 21.9% y llynedd a llai na chyfartaledd Cymru o 25%.

Cyfran y myfyrwyr yn llwyddo i basio lefel A CBAC (Graddau A* – E) yw 96.7%, lleihad bychan ar 97.4% y llynedd a llai na chyfartaledd Cymru o 97.7%.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Hoffwn longyfarch disgyblion sydd wedi llwyddo o ran y cymwysterau academaidd a galwedigaethol sydd eu hangen arnynt i fwrw ymlaen â’u gyrfaoedd.

“Da iawn i’r holl ddisgyblion a staff sydd wedi gweithio’n galed dros nifer o flynyddoedd i gyflawni’r canlyniadau heddiw.

“Mae angen diolch hefyd i bawb sydd wedi helpu’n myfyrwyr i lwyddo gan gynnwys eu rhieni sydd heb os yn falch ac yn teimlo rhyddhad heddiw.

“Fodd bynnag fe wyddom y bydd yna rai myfyrwyr na chafodd y canlyniadau roedden nhw yn eu dymuno ond carwn eu sicrhau y bydd cymorth ar gael i’w harwain nhw drwy ddewisiadau a chyfleoedd eraill i’w helpu i wireddu eu potensial.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.