Newyddion

Pleidleisiau drwy ddirprwy brys a phleidleisiau post newydd

Wedi ei bostio ar Thursday 27th April 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus roi gwybod i drigolion bod rhaid gwneud ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy brys erbyn 5pm dydd Iau 4 Mai.

Hwn hefyd yw'r dyddiad olaf y gellir gwneud cais am bapurau pleidleisio sydd wedi'u difetha neu sydd ar goll.

Ar 4 Mai, cynhelir etholiadau ar gyfer y 50 sedd ar gyngor y ddinas ledled 20 o wardiau. Gall trigolion bleidleisio mewn person, drwy bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy. Mae'r dyddiad cau ar gyfer pleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy bellach wedi bod yn gynharach y mis hwn.

Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau gall pobl wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais os na allant fynd i'r orsaf bleidleisio.

Gall pobl sydd wedi colli neu ddifetha eu pleidlais bost yn anfwriadol drefnu i gael un arall yn ei lle mewn person oddi wrth y swyddog canlyniadau hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais. Os yw'r papur wedi'i ddifetha, mae'n rhaid ei ddychwelyd gyda'r rhannau eraill o'r pecyn pleidleisio.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.newport.gov.uk/etholiadau

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.