Newyddion

Etholiadau'r Cyngor: dyddiadau cau pleidleisiau post a thrwy ddirprwy

Wedi ei bostio ar Thursday 13th April 2017

Mae dyddiadau cau pwysig ar y ffordd i drigolion Casnewydd sydd am ddefnyddio pleidlais bost neu drwy ddirprwy yn yr etholiadau llywodraeth leol ar 4 Mai.

Rhaid gwneud cais am bleidlais bost erbyn 18 Ebrill Os na allwch bleidleisio, gallwch gael rhywun rydych yn ymddiried ynddo i wneud ar eich rhan. Rhaid cyflwyno cais am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 25 Ebrill.

Os ydych eisoes yn pleidleisio trwy'r post ond am benodi dirprwy yn lle, rhaid i chi wneud hyn erbyn 5pm ar 18 Ebrill. Os oes gennych ddirprwy eisoes ond eich bod am benodi dirprwy newydd i bleidleisio ar eich rhan, rhaid i chi hefyd wneud hyn erbyn 5pm ar 18 Ebrill.

Dim ond etholwyr sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio a all gael pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.

I gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio a'r etholiadau cyngor ar 4 Mai ewch i www.newport.gov.uk/elections

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.