Cyfle cyfartal
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ym mhopeth a wna.
Mae holl weithwyr y Cyngor yn gyfrifol am hyrwyddo cydraddoldeb a dylai pob un o’r cyflogeion allu nodi’r modd y mae eu gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb.
Byddwch yn cael eich holi am gyfle cyfartal os cewch gyfweliad am swydd.
Yng Nghasnewydd, rydym yn credu y dylid rhoi’r un pwysigrwydd i bob mater cydraddoldeb: anabledd, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, yr iaith Gymraeg, rhywedd ac oedran.
Mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn cynnwys tair egwyddor ac adlewyrchir y rhain yng nghynlluniau a strategaethau’r Cyngor:
- Hyrwyddo cyfle cyfartal
- Hyrwyddo cysylltiadau cymunedol da
- Cael gwared ar wahaniaethu
Mae’r Cyngor am i bobl elwa’n gyfartal ar wasanaethau’r Cyngor, ac felly, mae’n:
- Hyrwyddo Casnewydd fel lle da i bawb fyw a gweithio ynddo
- Monitro cyflogaeth
- Buddsoddi mewn cyflogeion, a’u hyfforddi
- Cyhoeddi gwahanol fformatau fel Braille, print bras, ac ati
- Cyflwyno gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd
- Adolygu gwasanaethau a chael gwared ar wahaniaethu
- Gwella mynediad ffisegol at adeiladau
- Darparu gwasanaethau arbenigol, e.e. chwaraeon ar gyfer pobl anabl
- Darparu gwasanaethau sy’n hygyrch i bawb, e.e. canolfannau cymunedol
- Gwella mynediad at wasanaethau
- Gofyn i bobl sut maent am gael gwasanaethau
- Cynnwys dinasyddion ac yn ymgynghori â nhw ynghylch gwasanaethau
- Gweithredu pan fydd dinasyddion yn nodi problem
- Gwrthwynebu troseddau casineb a thrais yn erbyn dynion neu fenywod
Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio i ddileu anghydraddoldeb ar sail ardal ddaearyddol, diwylliant, cyfrifoldeb gofal, tai, camddefnyddio sylweddau, ac ati.
Os ydych chi’n anabl neu os bydd angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflenni, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu helpu.
Mae ffurflenni cais, disgrifiadau swydd a gofynion swyddi ar gael mewn fformatau eraill yn ogystal â phrint bras.
Croesewir ceisiadau mewn Braille neu ar dâp.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i’r cynllun Cadarnhaol ynghylch Pobl Anabl – rydym yn sicrhau cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.