Hunanwasanaeth Cyflogai (HC)

Mae Hunanwasanaeth Cyflogai (HC) yn caniatáu i chi gael at gofnod y cyngor o'ch manylion swydd a'ch manylion personol pwysig eich hun.

Gallwch ddiweddaru'r wybodaeth hon eich hun a gweld eich slip cyflog ar-lein.

Rhybudd pwysig: dylech osgoi defnyddio Microsoft Internet Explorer wrth ddefnyddio eich cyfrif ESS. Nid yw'r porwr hwn yn cael ei gefnogi gan y platfform mwyach a gall achosi problemau sylweddol.

Dilynwch y ddolen isod i fynd i'r sgrin fewngofnodi, lle byddwch angen defnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer HC:

Mewngofnodi i Hunanwasanaeth Cyflogai 

Darllenwch Ganllaw Defnyddiwr (pdf) a Chwestiynau Cyffredin (pdf) HC

Cysylltwch â Desg Gymorth iTrent gydag unrhyw broblemau.

Gwybodaeth bwysig am ddiogelwch

Gan fod system HC yn cynnwys gwybodaeth sensitif amdanoch chi, mae'n bwysig eich bod yn ei defnyddio'n gyfrifol i sicrhau bod diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chynnal.

Dylech bob amser allgofnodi o HC pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio a pheidio byth â rhoi gwybod i unrhyw un arall am eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.

I allgofnodi o HC, cliciwch bob amser ar 'allgofnodi' yng nghornel dde uchaf y sgrin neu gau'r porwr neu'r tab, oherwydd bydd hyn yn eich allgofnodi'n awtomatig.

Ni all cyflogeion eraill weld eich manylion drwy HC, dim ond eu manylion eu hunain.