Datgeliadau DBS

Fel gwasanaeth cyhoeddus, rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd fod yn ofalus ynglŷn â chymeriad a chefndir cyflogeion y mae eu gwaith yn golygu y byddant yn dod i gysylltiad â phobl agored i niwed.

Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974

Os yw’r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) Gorchymyn 1975 (fel y’i diwygiwyd), bydd gofyn i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau troseddol, rhwymiadau neu geryddon, gan gynnwys y rheiny a fyddai fel arfer yn cael eu hystyried yn rhai a dreuliwyd.

Pan fydd y swydd yn eithriedig, bydd hyn yn cael ei ddatgan yn y disgrifiad o’r swydd o dan amodau arbennig, ac mae’n rhaid i chi wedyn lenwi’r adran berthnasol ar y ffurflen gais.

Deddf Plant 1989

Os yw’r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani yn gofyn i chi ddod i gysylltiad sylweddol â phlant, yna mae’n ofynnol i chi, o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) Gorchymyn 1975 (fel y’i diwygiwyd), ddatgelu unrhyw euogfarnau troseddol, rhwymiadau neu geryddon, gan gynnwys y rheiny a fyddai fel arfer yn cael eu hystyried yn rhai a dreuliwyd, fel y nodir uchod.

Yn ychwanegol, o dan Ddatgelu Cefndir Troseddol y rhai sy'n dod i Gysylltiad â Phlant (Deddf Plant 1989), bydd angen i chi gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) hefyd.

Deddf yr Heddlu 1997

Mae Rhan 5 y Ddeddf hon yn caniatáu i bob sefydliad yng Nghymru a Lloegr gael gwybodaeth hanes troseddol ynghylch darpar gyflogeion a gwirfoddolwyr.

Gall sefydliadau gael datgeliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) sy’n dangos euogfarnau a dreuliwyd, rhwymiadau neu geryddon ar gyfer swyddi a fydd yn golygu bod y cyflogai neu’r gwirfoddolwr yn dod i gysylltiad â grwpiau sy’n agored i niwed, ac ar gyfer categorïau eraill o swyddi sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr.

Os yw’r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani yn swydd y mae angen cael datgeliad gan y GDG ar ei chyfer, bydd gofyn i chi lenwi cais am ddatgeliad, naill ai yn ystod y cam rhestr fer neu os byddwch yn cael cynnig y swydd.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei thrin yn gyfrinachol a dim ond y cais am ddatgeliad ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus fydd yn cael ei anfon i’r GDG. Bydd yr holl geisiadau eraill am ddatgeliad yn cael eu rhwygo.

Ni fydd datgelu hanes troseddol, neu wybodaeth arall, yn eich atal rhag cael cynnig swydd oni bai bod y swyddog penodi yn ystyried bod yr euogfarn yn golygu eich bod yn anaddas ar gyfer y swydd.

Wrth wneud y penderfyniad, bydd y swyddog penodi yn ystyried natur y drosedd, pa mor hir yn ôl ydoedd, beth oedd eich oedran pan gyflawnwyd y drosedd, ac unrhyw ffactorau eraill a allai fod yn berthnasol.

Bydd eich canolwyr hefyd yn cael gwybod bod y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a'u bod yn gallu datgelu unrhyw wybodaeth a allai fod ganddynt ynghylch euogfarnau a fyddai fel arall yn rhai wedi eu treulio ac y gallent ystyried eu bod yn berthnasol i’ch addasrwydd ar gyfer swydd.

Os na fyddwch yn datgan euogfarn, cerydd neu rwym sy’n dod i’r amlwg yn ddiweddarach, gallai hyn arwain at eich diswyddo.