Safeguarding

SocialServices-Safeguarding-team

Mae'r gwasanaeth diogelu yng Nghasnewydd yn gweithio ar draws wasanaethau plant, oedolion ac addysg, wedi ei rheoli gan reolwr gwasanaeth sy'n gweithio ar draws y tri maes.

Mae swyddogion diogelu yn sicrhau bod ataliad ac amddiffyniad trigolion Casnewydd yn cael eu gwella a'u datblygu yn barhaol.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys y rolau penodol canlynol ar gyfer y Cyngor: 

Plant ac addysg

Mae'r uned diogelu, sydd wedi seilio yn y Ganolfan Ddinesig, yn gweithio'n agos gyda thimau sicrwydd ansawdd a datblygu polisi.

Mae'r tîm sicrhau ansawdd yn datblygu ac yn adolygu prosesau a gweithdrefnau i gynorthwyo gwelliant parhaus arferion o fewn yr awdurdod a sicrhau bod gan dimau y polisïau a'r gweithdrefnau diweddaraf i lywio eu harfer.

"Mae gwneud gwahaniaeth i fywydau drwy atal ac amddiffyn oedolion sy'n adored i niwed rhag camdriniaeth yn rhan o'n gwerthoedd craidd fel gweithwyr cymdeithasol ac mae'n wobrwyol iawn." (Rheolwr Arweiniol Dynodedig Tîm Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed)

 

Mae'r tîm yn cynnal yr ymweliadau arolygu misol Rheoliad 32 i unedau preswyl yr awdurdod ac archwiliadau sicrhau ansawdd yn fewnol.

Mae archwiliadau rhanbarthol ymarfer yn nodwedd reolaidd fel y mae cefnogaeth i'r gwasanaeth ehangach pan fo angen, e.e. arolygiadau AGGCC.

Mae'r holl bryderon proffesiynol cysylltiedig ar gyfer pobl sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant yn cael eu rheoli o fewn y rôl swyddog diogelu fel un pwynt cyswllt.  

Mae plant sydd â threfniadau yn eu lle am gymorth ariannol y cyngor gan wasanaethau plant mewn perthynas â Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth (golygiad ffeiliau) hefyd yn cael eu rheoli gan y tîm. 

Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol yn darparu cadeirio annibynnol mewn cynadleddau amddiffyn plant ac adolygiadau plant sy'n derbyn gofal gan gynnwys adolygiadau ar gyfer blant sy'n ceisio lloches heb gwmni oedolion a rhai adolygiadau seibiannau byr, cynllun llwybr ac adolygiadau mabwysiadu.  

Mae'r Swyddog Diogelu Addysg wedi'i leoli yn y Ganolfan Ddinesig ac yn gweithio gyda gwasanaethau addysg i gefnogi'r agenda diogelu ar draws ysgolion Casnewydd.

Mae perthynas waith agos gyda gwasanaethau plant yn allweddol i gyfathrebu effeithiol rhwng y gwasanaethau ac yn sicrhau bod ymatebion priodol a phrydlon yn cael eu rheoli. 

Mae'r swyddog Camfanteisio Rhywiol ar Blant arweiniol wedi'i leoli yn y Ganolfan Ddinesig ac yn gweithio ar draws gwasanaethau plant er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ymarferol.

Mae'r datblygiad strategol o fewn y cyngor ac yn y rhanbarth yn sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd mewn perygl yn cael eu diogelu yn unol â pholisi, canllawiau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol. 

Mae gweinyddiaeth diogelu yn cofnodi cynadleddau amddiffyn plant yn ffurfiol, cwblhau ymholiadau CAFCASS ac yn cynnal cofrestr amddiffyn plant Casnewydd. 

Oedolion

Mae'r Gwasanaeth Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed wedi'i leoli yn y Ganolfan Ddinesig ac mae'n darparu gwybodaeth arbenigol am faterion amddiffyn oedolion i'r cyngor a hefyd rôl ymchwilio Rheolwr Arweiniol Dynodedig pan fo hynny'n briodol.

Mae'r datblygiad strategol ar gyfer oedolion mewn perygl o fewn deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol yn rhan o waith y Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent Eang.

Caiff gwelliant parhaus mewn darpariaeth leol ei wella gan swyddogion sicrhau ansawdd.