Pathway team

SocialServices-LookedAfterChildren

Mae tri thîm yn delio â phlant a phobl ifanc sy'n byw oddi cartref, gan gynnwys plant sy'n destun gorchymyn cyfreithiol drwy'r llysoedd a phlant sy'n destun Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig.

Mae'r timau hefyd yn cefnogi pobl ifanc 16 a 17 oed sydd wedi eu cyflwyno eu hunain yn ddigartref.

"Rwyf wedi symud ymlaen yn fy ngyrfa yng Nghasnewydd o fewn yr un tîm o weithiwr cymdeithasol i uwch ymarferydd ac erbyn hyn rheolwr tîm" Rheolwr Tîm

 

Mae staff yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, staff cymorth ac ymgynghorwyr personol sy'n cynnig gwasanaeth i'r rhai dros 18 oed.

Mae'r timau yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion plant sy'n derbyn gofal yn cael eu bodloni a'u bod yn cael eu cefnogi yn unol â'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

Maent hefyd yn rheoli pob agwedd ar ddiogelu plant ar gyfer yr achosion sy'n agored iddynt.

Mae staff wedi'u lleoli yn y Ganolfan Ddinesig ar gyfer oriau gwaith arferol.