Integrated Family Support Service

SocialServices-IFSS

Mae'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (GICD) yn cael ei ddarparu ar y cyd gan wasanaethau plant Cyngor Dinas Casnewydd a Barnardos.

Nod y GICD yw darparu ymyriadau aml-asiantaeth, sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n integreiddio'n ddi-dor ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Mae'r GICD yn cynnwys y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, y Gwasanaeth Asesu a Chymorth i Deuluoedd, y Tîm Cymorth i Deuluoedd, y Gwasanaeth Cyswllt i Deuluoedd a'r Tîm Atal (tîm o amgylch y teulu). 

"Bydd gweithio ym maes gwaith cymdeithasol yn her bob tro, ond mae'r teimlad o werthfawrogiad, bod rhywun yn gwrando a derbyn cymorth bob amser yn gwneud i bethau teimlo ychydig yn haws" 

Rheolwr Tîm 

Y Gwasanaeth Asesu a Chymorth i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Asesu a Chymorth i Deuluoedd yn darparu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y teulu i alluogi rhieni i wella eu gallu i fagu plant a chydnabod eu cryfderau ac adeiladu gwytnwch.

Mae ymyriadau wedi'u seilio ar waith sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i anghenion y teulu a bydd yn cynnwys elfennau o Gyfweld Ysgogiadol, Therapi Byr yn Canolbwyntio ar Atebion a Therapi Gwybyddol Ymddygiadol.

Tîm Cymorth i Deuluoedd

Mae'r Tîm Cymorth i Deuluoedd yn  ymgymryd â darnau penodol o waith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a / neu eu teuluoedd yn unol ag anghenion a nodwyd mewn asesiad gwaith cymdeithasol.

Mae'r cynllun gwaith yn hyblyg, a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion y teulu gydag ymweliadau rheolaidd ac adnoddau penodol a nodwyd a ddefnyddir yn ôl yr angen.

Y nod yw gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i'w helpu i ddelio â'u sefyllfa, fel y gallant ymdopi â heriau ar eu pen eu hunain yn y dyfodol.

Gwasanaeth Cyswllt i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Cyswllt i Deuluoedd yn hwyluso cyswllt dan oruchwyliaeth ar gyfer teuluoedd sy'n hysbys i Gyngor Dinas Casnewydd, y mae eu plant mewn gofal gwirfoddol neu sy'n destun gorchymyn gofal dros dro.

Nid yw'r Gwasanaeth Cyswllt i Deuluoedd yn darparu ymyriadau therapiwtig i deuluoedd ond yn creu amgylchedd cyfeillgar a gofalgar i'r teulu ar gyfer cyswllt dan oruchwyliaeth i blant y mae eu rhieni neu eu gofalyddion yn peri risg uniongyrchol iddynt.

Tîm Atal (Tîm o Amgylch y Teulu)

Y tîm atal yw'r pwynt mynediad sengl at ddarpariaethau Teuluoedd yn Gyntaf ac yn darparu gwasanaeth atal ac ymyrraeth gynnar i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol, ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer derbyn cymorth mwy arbenigol/statudol, h.y. gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Ni fydd y tîm atal yn gweithio gydag achosion sydd ar agor i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Byddwn yn gweithio gyda phlant a theuluoedd i'w hatal rhag angen gwasanaethau statudol (Gwasanaethau Cymdeithasol neu Wasanaethau Troseddau Ieuenctid) neu pan fydd naill neu'r llall ohonynt wedi cwblhau eu hymyriadau ac mae lefel isel o angen yn parhau i fodoli.