Fostering team

SocialServices-Fostering

Mae'r tîm maethu yn gyfrifol am recriwtio, hyfforddi, goruchwylio a chefnogi gofalyddion maeth.

"Ar ôl gweithio yn flaenorol mewn awdurdod yn Lloegr, rwyf yn edmygu'r lefelau o adnoddau sydd ar gael i blant a theuluoedd yng Nghasnewydd " Rheolwr Tîm

Mae'r tîm maethu hefyd yn gysylltiedig â chwblhau asesiadau hyfywedd o ofalyddion teulu posibl i blant yn ystod y broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus ac yn cynnal asesiad o deuluoedd neu ffrindiau adnabyddedig sydd wedi cael asesiad hyfywedd cadarnhaol.

Mae gan y tîm weithiwr dynodedig hefyd sy'n asesu, monitro ac yn adolygu trefniadau maethu preifat. 

Mae tîm maethu Casnewydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Ddinesig.