Arweiniad ar wneud cais

employer_w

Mae holl swyddi Cyngor Dinas Casnewydd ar gael i'w gweld trwy wefan y cyngor a gellir gwneir ceisiadau amdanynt ar-lein. 

Gall eich llyfrgell leol yng Nghasnewydd eich helpu i lenwi'r ffurflen os bydd angen cymorth arnoch. Cysylltwch er mwyn cytuno ar amser addas i alw heibio. 

Gadewch ddigon o amser cyn y dyddiad cau i lenwi eich ffurflen gais.

Gallai fod yn ddefnyddiol paratoi rhywfaint o wybodaeth cyn eich ymweliad, fel dyddiadau swyddi blaenorol, cymwysterau a thystiolaeth eich bod yn bodloni meini prawf y swydd.

Rydym yn croesawu ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn gwneud cais am swydd yn y Gymraeg, bydd yr holl ohebiaeth a gewch yn gysylltiedig â'r swydd honno yn y Gymraeg.  

Mae lle ar y ffurflen gais i ofyn am gynnal unrhyw gyfweliad/proses asesu yn Gymraeg os caiff eich cais ei gynnwys ar restr fer.

Os byddwch yn gofyn am hyn, bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu adeg y cyfweliad/asesiad (oni bai ei bod hi'n bosibl cynnal y cyfweliad/asesiad yn y Gymraeg heb ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu).

Mae'r cyngor yn croesawu ceisiadau o dan y cynllun Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl, a bydd yn addo cyfweliad i bobl ag anableddau os byddant yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd.

Fel rhan o'n hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu polisi newydd ar gyfer milwyr wrth gefn ac mae ganddo gynllun gwarantu cyfweliad ar waith ar gyfer aelodau o gymuned y lluoedd arfog.

Cyn i chi lenwi'r ffurflen gais 

Darllenwch:

  • Y swydd-ddisgrifiad: mae'n darparu gwybodaeth am ddiben y swydd ac mae'n rhestru prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd.
  • Ffurflen gofynion y swydd: mae pob swydd sy'n cael ei hysbysebu yn seiliedig ar ffurflen gofynion y swydd, sy'n disgrifio'r sgiliau/profiad a'r wybodaeth/cymwysterau rydym ni'n chwilio amdanynt.

Llenwi'r ffurflen gais

Gwybodaeth bersonol

Llenwch eich enw, cyfeiriad ac o leiaf un rhif ffôn.

Rhowch eich rhif Yswiriant Gwladol.

 

Addysg ac aelodaeth broffesiynol

Rhowch fanylion ysgolion uwchradd, addysg bellach a sefydliadau hyfforddi rydych chi wedi'u mynychu.

Rhestrwch yr arholiadau rydych chi wedi llwyddo ynddynt ac unrhyw gyrsiau rydych chi wedi'u mynychu, gan gynnwys dyfarniadau.

 

Gwybodaeth am gyflogaeth

Rhowch eich hanes cyflogaeth llawn, gan gynnwys lleoliadau hyfforddiant, profiad gwaith dros dro di-dâl, neu brofiad gwaith gwirfoddol.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r manylion ar gyfer un cyfnod cyflogaeth, cliciwch 'Adio un arall' hyd nes byddwch wedi adio'ch holl gyfnodau cyflogaeth.

Bydd eich hanes cyflogaeth yn cael ei roi yn nhrefn y dyddiad yn awtomatig a gallwch olygu'r wybodaeth cynifer o weithiau ag y bydd angen.

 

Datganiad ategol

Mae'r wybodaeth a ddarparwch yn yr adran hon yn bwysig ar gyfer asesu eich cais. Defnyddiwch yr adran hon i: 

  1. Roi eich rhesymau dros wneud cais am y swydd
  2. Cysylltu'ch sgiliau, profiad, rhinweddau personol a hyfforddiant â gofynion y swydd sydd wedi'u cynnwys yn y swydd-ddisgrifiad

Dyma'ch cyfle i werthu'ch hun a chyflwyno'ch profiad yn y ffordd orau bosibl.

Dull defnyddiol o gwblhau eich datganiad ategol (a'ch paratoi eich hun am gyfweliad) yw defnyddio model STAR, sy'n eich helpu i gyflwyno'ch enghreifftiau mewn ffordd wedi'i strwythuro:

  • Sefyllfa (Situation) - cyflwynwch yr olygfa, disgrifiwch y sefyllfa neu'r broblem.
  • Tasg (Task) - amlinellwch y dasg yr oedd ei hangen i ddatrys y mater neu'r broblem.
  • Gweithred (Action) - disgrifiwch beth wnaethoch chi, sut a phryd y gwnaethoch chi hynny, y sail resymegol i'r dewisiadau a wnaethoch a'r pethau allweddol a wnaethoch i oresgyn y mater neu'r broblem.
  • Canlyniad (Result) - beth oedd y canlyniad a'r gwahaniaeth a wnaeth.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Defnyddiwch y lle hwn i ddatgan a oes gennych unrhyw euogfarnau troseddol, a ydych yn perthyn i unrhyw un sy'n gweithio i Gyngor Dinas Casnewydd neu a oes angen trwydded arnoch i weithio yn y DU.

 

Geirdaon

Rhowch enwau o leiaf ddau o bobl y gallwn ofyn iddynt am eirdaon ar gyfer eich cais.

Dylai'r cyntaf fod gan eich cyflogwr diwethaf (neu bennaeth os ydych chi'n gadael yr ysgol).

Os nad oes gennych eirdaon, rhowch enwau pobl broffesiynol sy'n eich adnabod chi.

 

Datganiad terfynol

Rhowch unrhyw ddyddiadau pan na fyddwch yn gallu dod i gyfweliad - er na fydd modd addasu dyddiadau cyfweliad bob amser, ceisiwn fod yn hyblyg os gallwn.

Nodwch os hoffech i unrhyw gyfweliad neu asesiad gael ei gynnal yn Gymraeg. 

 

Monitro Cyfle Cyfartal

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fan hyn yn cael ei defnyddio gan y cyngor i fonitro gweithrediad ei bolisïau Cyfle Cyfartal a chyflogaeth cysylltiedig yn unig, yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data (1998).

Ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill na'i datgelu i unrhyw sefydliadau eraill, ac eithrio i gyflawni ein hymrwymiadau statudol.

Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi i'r rheolwr sy'n chwilio am staff na'r panel sy'n llunio'r rhestr fer.

 

Y camau nesaf?

Gwnawn ein gorau i roi gwybodaeth i chi wrth i'ch cais fynd trwy'r broses recriwtio.

Oherwydd ein bod yn derbyn ceisiadau ar-lein yn unig, bydd hyn drwy'r e-bost yn gyffredinol.

Sicrhewch eich bod yn edrych ar y cyfrif e-bost a ddarparoch i ni yn rheolaidd i wneud yn siwr na fyddwch yn colli unrhyw wybodaeth.

Os caiff eich cais ei gynnwys ar restr fer, cewch e-bost yn eich gwahodd i gyfweliad.

Bydd y neges e-bost yn cynnwys manylion am yr hyn a fydd yn ofynnol ohonoch yn y cyfweliad ac yn rhoi gwybodaeth am ei ddyddiad, amser a lleoliad.

Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi os na chaiff eich cais ei gynnwys ar restr fer ar gyfer cyfweliad.

 

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu gofynnwch am Bobl a Thrawsnewid yng Nghyngor Dinas Casnewydd.  

 

Hysbysiad preifatrwydd - Ymgeisio am swydd (pdf)