Strategaeth Hygyrchedd Drafft ar gyfer ysgolion

Ymgynghoriad

11 Chwefror - 8 Ebrill 2019

Mae strategaeth hygyrchedd drafft Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer ysgolion yn nodi sut mae’r cyngor yn amcanu gwella hygyrchedd ysgolion ar gyfer disgyblion ag anableddau. 

Mae’r strategaeth ddrafft yn amlinellu ein hymrwymiad i wella:

  • y graddau y gall disgyblion anabl gymryd rhan yng nghwricwlwm yr ysgol
  • amgylchedd ffisegol ysgolion
  • mynediad i wybodaeth ar gyfer disgyblion, gofalwyr a theuluoedd
  • cyfathrebu a thryloywder drwy fod yn agored ac yn onest am yr hyn y gellir ei ddisgwyl a’i gyflawni

Gweld strategaeth hygyrchedd ddrafft ysgolion (pdf)

Gweld fersiwn plant a phobl ifanc o’r strategaeth hygyrchedd ddrafft ar gyfer ysgolion (pdf)

>Rhoi sylw ar y strategaeth hygyrchedd ddrafft ar gyfer ysgolion< 

Neu gallwch e-bostion sylwadau i [email protected]

Mae copïau caled o’r strategaeth ddrafft ar gael o’r Orsaf Wybodaeth, Queensway, Casnewydd.  

Gweld yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)

Cysylltu

E-bostiwch unrhyw ymholiadau i [email protected]

TRA97904 18/2/2019