Brexit

Mae'r DU wedi gadael

O 1 Ionawr 2021 bydd newidiadau a fydd yn effeithio ar bob un ohonom - o'r ffordd yr ydym yn cynnal busnes i'r ffordd yr ydym yn teithio. Bydd gwefan Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnwys cyngor ac yn eich cyfeirio at wybodaeth gyfredol i'ch helpu chi, eich teuluoedd a'ch busnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn.

Mae’r cyngor wedi cymryd camau ymarferol ac ystyried gamau i liniaru’r effaith er mwyn sicrhau parhad darpariaeth gwasanaethau yng Nghasnewydd.  

Busnes  

Mae llythyr a gyhoeddwyd gan Michael Gove ar 22 Medi 2020, mewn perthynas â symud nwyddau rhwng y DU a'r UE ar ddiwedd y cyfnod pontio, yn datgan mai'r achos posibl mwyaf o darfu yw na fydd masnachwyr yn barod ar gyfer rheolaethau a weithredir gan Aelod-wladwriaethau'r UE ar 1 Ionawr 2021. Gellir gweld y wybodaeth am y 'Senarios Gwaethaf Rhesymol' y cyfeirir atynt yn y llythyr yma. 

Os ydych chi’n berchennog busnes neu os ydych chi’n gyfrifol dros gynllunio ar gyfer Brexit, mae https://businesswales.gov.wales/brexit/cy yn nodi’r camau y dylech eu cymryd i baratoi eich busnes at effaith posibl canlyniad hab fargen.

Mae hefyd yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau cymorth a chyngor.

Gall busnesau hefyd asesu a gwella eu trefniadau parhad busnes drwy ddefnyddio’r canllaw parhad busnes a’r ffurflen hunan-asesu.

Mae digwyddiadau Paratoi Busnesau ar gyfer Brexit yn cael eu cynnal ledled y DU lle gallwch gwrdd ag ymgynghorwyr y llywodraeth a dysgu beth sydd angen i’ch busnes ei wneud i baratoi – dysgwch fwy a chofrestrwch.

Cymunedau 

Fel awdurdod, a chyda’n partneriaid bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Casnewydd yn Un (link), mae’n flaenoriaeth gennym gefnogi dinas gynhwysol sy’n croesawu pobl o bob cefndir. Os ydych chi’n bryderus dros dyndra mewn cymunedau oherwydd Brexit, er enghraifft troseddau atgasedd, e-bostiwch [email protected]

Ddinesydd yr UE

Os yw dinesydd yr UE am aros yn y DU, bydd angen iddo ef a’i deulu agos wneud cais i’r cynllun preswylio’n sefydlog.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gymorth i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.

Mae tua 80,000 o ddinasyddion yr UE yn byw, gweithio ac astudio yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae llawer ohonynt heb wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Llywodraeth y DU i aros yn y DU ar ôl Brexit.   

Gwybodaeth bwysig i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, os oes gennych chi staff o’r UE neu os ydych chi’n recriwtio o’r UE, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi cyngor ar Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE

Teithio 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer dinasyddion y DU sy’n cynllunio teithio i’r UE. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar basbortau, cyngor ar deithio, teithio ag anifeiliaid a ffioedd crwydrol ffônau.

Caiff y wefan hon ei diweddaru wrth i’n gwaith paratoi ddatblygu ac wrth i ragor o wybodaeth ar faterion sy’n benodol i Gasnewydd ddod i law.