Cwestiynau i'r Aelod Cabinet Addysg a Sgiliau

Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd J Watkins, a dderbyniwyd ar 6 Medi 2017

Pwnc: Buddsoddi yn Ysgolion yr 21ain Ganrif

Gweler cwestiynau ychwanegol i’r Cynghorydd Giles ynglŷn â’r uchod 

  1. Beth yn benodol yw’r gwelliannau arfaethedig i ysgolion cyfun Basaleg a Chaerllion?  
  2. A fydd y gwelliannau arfaethedig i’r ysgolion uchod, fel y’u haddawyd o dan Fand B Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn cael eu lleihau mewn unrhyw ffordd oherwydd bod arian wedi cael ei neilltuo i’r ysgol Gymraeg newydd nad oedd yn rhan o’r cynllun cychwynnol?  
  3. Bydd ysgol newydd ym Mharc Jiwbilî, ynghyd â’r cynllun i wneud Ysgol Gynradd Tŷ-du yn ysgol tair blwyddyn fynediad, yn rhoi pwysau sylweddol ar strwythurau staffio a llety yn Ysgol Uwchradd Basaleg. A oes unrhyw gynlluniau i newid dalgylchoedd ysgolion uwchradd i ymdopi â niferoedd mynediad ychwanegol yn Ysgol Uwchradd Basaleg?
  4. A yw’r arian ychwanegol y mae ei angen i ymdopi â thwf yr ysgolion hyn yn rhan o ddyraniad y fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif neu a fydd rhaid dod o hyd i arian arall?
  5. Pa ystadegau sydd gennych ynglŷn â thwf ychwanegol posibl yng Nghasnewydd?  
  6. A fydd yr arian o’r ffrwd gyllido hon yn talu am yr holl adnoddau ar gyfer ysgolion newydd yng Nglan Lyn a Llanwern?  
  7. O ystyried cyflwr ofnadwy’r adeiladau yn rhai o ysgolion Casnewydd a’r angen dybryd am uwchraddio ac adnewyddu, pa mor ddoeth oedd y penderfyniad i adeiladu ysgol newydd ar yr adeg hon, h.y. yr ysgol Gymraeg newydd? Oni ddylid bod wedi rhoi blaenoriaeth i atgyweirio ac adnewyddu adeiladau addysgol presennol? Nodaf y cydnabyddir er y bod addysgu a dysgu o’r pwys mwyaf, bod ansawdd yr amgylchedd dysgu’n ychwanegu at ddyheadau a chyflawniadau disgyblion, ac yn eu cefnogi.

Ymateb                                                                                        

  1. Rydym ni’n ceisio gwella safleoedd a chynyddu capasiti’r ddwy ysgol. Byddai’r estyniadau posibl yn gweld Basaleg yn cynyddu i 2000 o ddisgyblion a Chaerllion yn cynyddu i 1800 o ddisgyblion. Bydd manylion y cynlluniau’n dibynnu ar y cyllid cytunir arno’n derfynol gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, rydym wedi cyflwyno ein Cynllun Amlinellol Strategol, sy’n gynnig ar gyfer rhaglen £70 miliwn wedi’i hariannu’n gyfatebol, ac rydym wedi nodi ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi o fewn Band B. Mae Band B yn berthnasol i’r cyfnod o fis Ebrill 2019 – 2024.   
  2. Mae’r cyllid hyd yma ar gyfer yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi dod o Fand A ar wahân y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae’r tair ysgol yn rhan o’r cynnig Band B. Bydd penderfyniadau ynglŷn â datblygiadau penodol yn yr ysgolion yn dibynnu ar y cyllid y cytunir arno’n derfynol gan Lywodraeth Cymru. 
  3. Gweler uchod. Y bwriad yw cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Basaleg yn rhan o’n cynnig Band B.  
  4. Rydym wedi cynnwys cyllideb realistig ar gyfer y rhain yn ein cynnig. Yn dilyn gosod offer yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yn ddiweddar, rydym yn hyderus bod y cyllidebau’n ddigonol ar gyfer dodrefn a darpariaeth TG. 
  5. Ein hamcanion ar gyfer Band B yw sicrhau digon o leoedd ysgol yn ogystal â gwella’r amgylchedd dysgu. Mae’r galw am addysg Gymraeg gan rieni wedi cynyddu’n gyson yn ne-ddwyrain Cymru. Penderfynwyd sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol ac fe’i hariannwyd gyda chyfraniadau gan Lywodraeth Cymru, Casnewydd a Sir Fynwy. Cyhoeddwyd ar 25 Medi 2017

Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd J Watkins, a dderbyniwyd ar 31 Gorffennaf 2017

Pwnc: Cyllid ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif

Er y croesawn fuddsoddiad mewn ysgolion, mae cwestiynau a phryderon ynglŷn â’r cynigion presennol, fel a ganlyn:  

Mae angen buddsoddi’n sylweddol yn ysgolion cyfun Basaleg a Chaerllion o ran yr amgylchedd dysgu. Mae adeiladau’r ysgolion mewn cyflwr gwael iawn ac felly dylent fod ar frig y rhestr ar gyfer buddsoddi.  

Pam mae angen buddsoddi mwy yn yr ysgol Gymraeg newydd? Dylai’r buddsoddiad cychwynnol fod wedi bod yn ddigonol i gefnogi darparu’r ysgol honno. Onid oedd y buddsoddiad yn ddigonol i gefnogi hynny?  

Mae ysgolion cymharol newydd o ran oedran wedi’u cynnwys yn y rhestr h.y. Tŷ-du a Maendy. Beth yw’r meini prawf ar gyfer buddsoddi ynddynt ymhellach yn awr – pam maen nhw’n cael eu blaenoriaethu?  

O ran Ysgolion Cynradd Glanlyn a Llanwern, ynghyd â datblygu’r ysgol arfaethedig yn Whiteheads, pam mae angen cyllid preifat i ddarparu’r rhain? Beth a olygir wrth gyllid preifat? A fydd hyn yn cynnwys Menter Cyllid Preifat (PFI), o ystyried bod hyn wedi creu problemau dyled enfawr i ysgolion yn y gorffennol diweddar? Neu a fwriedir dibynnu ar ddatblygwyr i ddarparu arian 106? Er bod hyn yn ddefnyddiol, gall ddarparu cyfran fach yn unig o’r cyllid sy’n ofynnol i ddarparu ysgol newydd. 

Nid yw Ysgol St Julian, sy’n destun mesurau arbennig ar hyn o bryd, ar y rhestr. Oni fyddai’r ysgol hon yn elwa o gael ei chynnwys? 

Ymateb:

  1. Mae angen buddsoddi’n sylweddol yn ysgolion cyfun Basaleg a Chaerllion o ran yr amgylchedd dysgu. Mae adeiladau’r ysgolion mewn cyflwr gwael iawn ac felly dylent fod ar frig y rhestr ar gyfer buddsoddi 

Y prosiectau ysgol uwchradd yw’r brif flaenoriaeth yn Rhaglen Band B arfaethedig Ysgolion yr 21ain Ganrif, gyda’r cyllid mwyaf wedi’i ddyrannu iddynt. Bydd y gwaith a gynlluniwyd yn gwella’r cyfleusterau addysg yn Ysgol Basaleg, Ysgol Gyfun Caerllion ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn sylweddol.

 2. Pam mae angen buddsoddi mwy yn yr ysgol Gymraeg newydd? Dylai’r buddsoddiad cychwynnol fod wedi bod yn ddigonol i gefnogi darparu’r ysgol honno. Onid oedd y buddsoddiad yn ddigonol i gefnogi hynny 

I ddechrau, Ysgol Uwchradd Dyffryn, a adwaenir bellach fel Ysgol John Frost, oedd yr ysgol nesaf y bwriadwyd iddi gael ei gwella’n sylweddol a’i disodli o bosibl ar ôl ailadeiladu Ysgol Uwchradd Casnewydd ac Ysgol Uwchradd Llanwern.  

Ar ôl adeiladu dau floc addysg newydd y disgwylir iddynt gael eu cwblhau yn 2018, a’r gwaith ailfodelu/gwella i’r ddau adeilad a feddiannir ar hyn o bryd gan Ysgol John Frost, yr hyn a fydd ar ôl yw’r adeilad a etifeddir gan Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.  

Er bod adeilad Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, a adwaenir fel Bloc 1, ar gael i’w ddefnyddio fel cyfleuster addysg, mae angen iddo gael ei wella ymhellach ar ffurf ailfodelu sylweddol neu ddisodli. Nid oedd y cyllid sy’n ofynnol i ddatblygu Bloc 1 ar gael o fewn rhaglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Buddsoddwyd yn sylweddol yn safleoedd Ysgol John Frost ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, ond wrth symud ymlaen i amserlen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’n hanfodol bod mwy o fuddsoddiad yn cael ei wneud. 

 3. Mae ysgolion cymharol newydd o ran oedran wedi’u cynnwys yn y rhestr h.y. Tŷ-du a Maendy. Beth yw’r meini prawf ar gyfer buddsoddi ynddynt ymhellach yn awr – pam maen nhw’n cael eu blaenoriaethu 

Mae adeiladu digon o gapasiti yn yr ardaloedd priodol ledled Casnewydd yn ffactor pwysig yn y cynnig Band B. Mae’n rhaid bodloni dyletswydd statudol y cyngor, ac mae gan Ysgol Gynradd Tŷ-du ac Ysgol Gynradd Maendy safleoedd yn yr ardaloedd priodol sydd â thiroedd y credir eu bod yn ddigon mawr i ymdopi ag ymestyn ymhellach. Bydd hyn yn galluogi’r ddwy ysgol i gynyddu i 3 blwyddyn fynediad. Bydd y dewis hwn yn cynyddu nifer y lleoedd ysgol sydd ar gael yn sylweddol i ddisgyblion mewn ardaloedd lle mae galw uchel.   

 4. O ran Ysgolion Cynradd Glanlyn a Llanwern, ynghyd â datblygu’r ysgol arfaethedig yn Whiteheads, pam mae angen cyllid preifat i ddarparu’r rhain? Beth a olygir wrth gyllid preifat? A fydd hyn yn cynnwys Menter Cyllid Preifat (PFI), o ystyried bod hyn wedi creu problemau dyled enfawr i ysgolion yn y gorffennol diweddar? Neu a fwriedir dibynnu ar ddatblygwyr i ddarparu arian 106 

Bydd yr ysgolion arfaethedig, a adwaenir ar hyn o bryd fel Ysgol Gynradd Glan Llyn ac Ysgol Gynradd Llanwern, yn cael eu hadeiladu a’u darparu trwy’r cytundebau cyfreithiol Adran 106 yn rhan o’r datblygiad. Bydd prif gost adeiladu’r ysgolion hyn yn cael ei thalu gan gyfraniadau’r datblygwr tai. Fodd bynnag, ni fydd y naill ysgol na’r llall yn cael dodrefn ac offer yn rhan o’r cytundebau, felly mae hyn wedi cael ei gynnwys yn y cyflwyniad Band B o ganlyniad i’r costau sylweddol.  

Mae’r cyflwyniad Band B wedi’i seilio ar gyllido cyfalaf trwy gronfeydd wrth gefn cyfalaf, benthyca darbodus a chyfraniadau Adran 106, y bydd angen i’r cyngor eu derbyn cyn i’r prosiectau gael eu cwblhau. Ni fydd unrhyw fentrau cyllido preifat yn cael eu defnyddio i ariannu’r rhaglen.

 5. Nid yw Ysgol St Julian, sy’n destun mesurau arbennig ar hyn o bryd, ar y rhestr. Oni fyddai’r ysgol hon yn elwa o gael ei chynnwys 

Roedd y cyflwyniad Band B wedi ystyried pob ysgol yng Nghasnewydd. Yr ysgolion a flaenoriaethwyd yn y rhaglen arfaethedig oedd y rhai yr ystyriwyd bod angen iddynt gael cyllid i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau statudol i ddarparu mynediad i ysgolion a gwella cyfleusterau’r ysgolion yn y cyflwr gwaethaf. Mae cyfyngiadau ar y cynnig o ran lefel y cyllid, ond ystyrir bod yr amlen gyllid yn fforddiadwy. Ni fydd y rhaglen yn mynd i’r afael â’r holl broblemau presennol, ond bydd rhaglenni cyfalaf cynnal a chadw yn y dyfodol yn parhau i flaenoriaethu’r meysydd lle mae’r angen mwyaf.

Cyhoeddwyd ar 14 Awst 2017


Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd C Evans a dderbyniwyd ar 20 Gorffennaf 2017

Pwnc: Ysgolion yr 21ain Ganrif

Parthed y penderfyniad i’w groesawu i wneud cais i Lywodraeth Cymru Lafur am gyllid ysgolion yr ‘21ain Ganrif’, a chymeradwyaeth y cabinet i geisio’r cyfryw gyllid yn ddiweddar.  

Er bod gennyf bryderon ynglŷn ag egwyddor y broses gyllido ymgeisiol/tebyg i loteri a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, rwyf yn pryderu mwy ynglŷn â gwneud cais am gyllid ar gyfer ysgolion dethol yng Nghasnewydd, yn enwedig Tŷ-du, ac nid eraill.

Mae’n dda clywed bod Ysgol Gynradd Tŷ-du am gael ei chynnig, oherwydd bod yr anhrefn fynediad/parcio o amgylch yr ysgol yn achos pryder mawr yn lleol ac mae angen ei gwella ar frys, a dywedwyd wrthyf fod hyn yn rhan o’r cais am gyllid. Fodd bynnag, mae rhai o’m cymdogion wedi gofyn pam mae Highcross wedi cael ei hepgor? Fel y gwyddoch, fwy na thebyg, mae angen dybryd i’r ysgol gael ei huwchraddio i safon yr ‘21ain Ganrif’ ac mae’n dioddef llu o broblemau ar hyn o bryd, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth bychain, gwael o’r ‘20fed ganrif gynnar’ lle mae paent yn dod oddi ar y waliau, ystafell gotiau fychan a chyfleusterau ffreutur gwael iawn ac ati, a hyn oll er gwaethaf ymdrechion y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ragorol i uwchraddio cyfleusterau trwy eu gweithgareddau codi arian gwych. 

Un o’r cwestiynau a ofynnir yw ‘a yw’r weinyddiaeth hon wedi anghofio am Ysgol Gynradd Highcross?

Ymateb:

Mae cyflwyniad Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhaglen uchelgeisiol ond fforddiadwy a fydd yn cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru. Y prif bwyslais yw’r ddyletswydd statudol i ddarparu digon o leoedd i ddisgyblion ar draws y ddinas. Mae poblogaeth Casnewydd yn tyfu a gwneir pob ymdrech i ddarparu’r ysgol iawn yn y lle iawn.   

Bydd gwaith yn parhau gyda phob ysgol yng Nghasnewydd i fynd i’r afael â chynnal a chadw o fewn y cyllid cyfalaf cynnal a chadw a ddarperir bob blwyddyn. Dyrennir cyllid i bob prosiect ar sail flaenoriaeth, ac mae Ysgol Gynradd High Cross wedi’i chynnwys yn y broses hon.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2017