Gwerthu cywasgydd cardfwrdd

20201027_094136

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gwahodd cynigion am Gywasgydd Cardfwrdd taradr statig wedi’i ddefnyddio, gyda system rhag-rwygo, codwr biniau a chawell diogelwch sy’n rhyng-gloi (model Bergman:BDL SV11AT 15kW) a brynwyd gan y cyngor ym mis Gorffennaf 2017, i'w werthu i'r cynigydd uchaf. 

Dylai darpar brynwyr sy'n dymuno gweld yr eitem hon e-bostio [email protected]

Dylid e-bostio cynigion at [email protected] erbyn hanner dydd, 27 Tachwedd 2020. 

Rhowch y teitl 'Cynnig am Gywasgydd Bergman, 27.11.2020 – CYFRINACHOL' i’ch e-bost i sicrhau y caiff eich cais ei ystyried. Ni fydd cynigion hwyr yn cael eu hystyried. 

Cyflwynwch un cynnig terfynol yn unig, ar gyfer eich cwmni chi yn unig.  Rhaid talu am yr eitem drwy BACS o fewn deng niwrnod i'r dyddiad gwerthu y cytunwyd arno a rhaid i'r arian glirio cyn i'r prynwr ei gasglu.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cadw'r hawl i beidio â gwerthu'r eitem a/neu i beidio â dewis y ffi dendro uchaf.

Manylion yr eitem 

Cyflenwr: Bergmann Direct Limited / Werner Weber

Model: BDL SV11AT 15kW Cywasgydd Taradr Statig gyda System Rhag–rwygo, Codwr Biniau a Chawell Diogelwch sy’n Rhyng-gloi 

Mae llyfryn manyleb Cywasgydd Taradr Bergmann (pdf) yn cynnwys data technegol, pŵer cywasgu a dimensiynau uned sylfaenol

Darllenwch fanyleb fanwl yr uned a nodweddion yr eitem sy’n cael ei gwerthu (pdf)         

Dyddiad prynu: Gorffennaf 2017            

Hanes y gwasanaeth: gwasanaethu ddwywaith y flwyddyn, gwarant estynedig a ddaeth i ben Gorffennaf 2020 

Gwasanaethwyd ddiwethaf ar 27 Gorffennaf 2020, yn gwbl weithredol yn dilyn gwasanaeth. 

Rheswm dros werthu: ddim yn cael ei ddefnyddio mwyach oherwydd newid yn y dull o gasglu cardfwrdd oherwydd COVID-19

Pris: gwahoddir cynigion dros £12,500

Yr ymgeisydd llwyddiannus i ddatgymalu a symud yr uned o Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Dinas Casnewydd, Docks Way, Casnewydd NP20 2NS.