Procurement FAQs

Pam dylech gynnal busnes gyda Chyngor Dinas Casnewydd?

  • Mae’r Cyngor yn un o brynwyr nwyddau a gwasanaethau mwyaf yr ardal.
  • Mae’n sefydlog o ran arian ac yn talu’n brydlon, fel arfer o fewn 30 diwrnod.
  • Mae arno ddyletswydd i fod yn deg, gonest a phroffesiynol yn sut mae’n dewis ac yn trin cyflenwyr.
  • Mae’r Cyngor yn hyrwyddo dulliau gweithredu amgylcheddol ddoeth nad ydynt yn gwahaniaethu ac sydd o fudd i’r ddinas a’r rhai sy’n byw ac yn gweithio ynddi.
  • Pan fo’n bosibl, bydd y cyngor yn ceisio atebion arloesol i ofynion.
  • Mae’r Cyngor eisiau cefnogi busnesau lleol ac mae’n awyddus i hyrwyddo cadwyni cyflenwi lleol.

Cofrestru diddordeb mewn cyflenwi’r cyngor

Mae’r cyngor yn hysbysebu cyfleoedd contractio gwerth dros £25,000 yn ogystal â defnyddio contractau fframwaith y sector cyhoeddus sefydledig.

Gallwch hefyd gofrestru eich busnes yn GwerthwchiGymru, cronfa ddata a reolir gan Lywodraeth Cymru ac a hyrwyddir gerbron yr holl sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y gronfa ddata yn rhoi manylion eich cwmni ar gael i holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn sicrhau y cewch wybod yn awtomatig am unrhyw gyfleoedd tendro a gaiff eu cofrestru ar y wefan ac sy’n bodloni eich meini prawf cyflenwi.

Tendro ffurfiol

Mae dyletswydd ar y cyngor i roi gwerth am arian yn ei weithgarwch caffael a chydnabyddir tendro cystadleuol fel ffordd o ddefnyddio dull teg a chyfiawn o roi busnes, ac mae’n sicrhau bod y cyngor yn bodloni’r rhwymedigaethau sydd arno.

Cyfarwyddebau Caffael

Mae gofyniad cyfreithiol ar y Cyngor i gydymffurfio â Chyfarwyddebau Caffael yr UE, sy'n rheoli'r ffordd y mae caffael yn y sector cyhoeddus yn cael ei gynnal ar gyfer contractau sydd dros drothwyon penodol.

Y trothwyon sy’n berthnasol o fis Ionawr 2020 tan fis Rhagfyr 2021 yw £189,330 ar gyfer contractau gwasanaethu a chyflenwi a £4,733,252 ar gyfer contractau gwaith.

Adborth

Os ydych yn aflwyddiannus, gallwch ofyn am adborth ar gais tendr i chi gael syniad o pam na fuoch yn llwyddiannus.

Telerau talu

Darllenwch am Dim AB, Dim Talu

Mae’r Cyngor yn ceisio talu anfonebau o fewn 30 diwrnod a gallwch chi helpu drwy sicrhau bod eich anfoneb:

  • yn mynd i’r cyfeiriad sydd ar yr archeb brynu neu a fanylir yn y ddogfen gontract
  • yn nodi rhif yr archeb brynu
  • yn rhoi digon o fanylion i adnabod yn hawdd pa nwyddau neu wasanaethau a gyflenwyd
  • yn dangos y meintiau a’r prisiau cywir, fel y dengys ar archeb swyddogol y cyngor ac na chaiff ond ei chyflwyno ar gyfer nwyddau sydd eisoes wedi eu danfon neu wasanaethau sydd eisoes wedi eu darparu.

BACS yw’r dull y mae’r Cyngor yn dewis ei ddefnyddio i dalu; mae hwn yn hwyluso taliad prydlon ac uniongyrchol i gyfrif banc y cyflenwr. Gall y cyngor hefyd dalu drwy siec.