Grantiau cymunedol

Cronfa gymunedol Prosiect Gwyrdd a Viridor

Gall cronfa gymunedol Prosiect Gwyrdd a Viridor gynnig cymorth ariannol i fentrau cymunedol yng Nghasnewydd.

Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £3000 i gefnogi gweithgareddau a phrosiectau cymdeithasau cymunedol lleol. Mae'r gronfa yn dyrannu £50,000 y flwyddyn i brosiectau.

Gall unrhyw sefydliad neu grŵp, sydd â chyfansoddiad priodol, nid-er-elw a heb ei reoli gan awdurdod lleol wneud cais am gyllid.

Caiff ceisiadau am gyllid eu dyfarnu ar gynaliadwyedd, angen lleol, ymlyniad y gymuned, gwerth am arian ac addysg.

Gallwch gael mwy o wybodaeth a lawrlwytho ffurflen gais a chanllawiau gan Viridor

Cronfa Cymunedau Tirlenwi

Caiff y Gronfa Cymunedau Tirlenwi (CCT) ei rheoli gan sefydliad o’r enw Entrust ac mae'n caniatáu i Gyngor Dinas Casnewydd, fel gweithredwr safle tirlenwi, hawlio rhan o’r incwm a gynhyrchir gan dreth tirlenwi ar gyfer projectau sy’n gwella cymunedau lleol.   

Gall sefydliadau lleol wneud cais am y cyllid hwn ar gyfer projectau penodol sy’n diwallu gofynion y cynllun.  

Gallwch ddarllen y manylion llawn a gwneud cais ar wefan Entrust  

Cronfa’r Eglwys yng Nghymru

Sicrhaodd Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 ddadsefydlu’r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru gan wneud darpariaethau ar gyfer ariannu projectau eglwysig. 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn dyraniad blynyddol y gellir ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o amcanion elusennol gan gynnwys dibenion addysgol, cymdeithasol, hamdden a diwylliannol - nid yw'r gronfa yn cael ei defnyddio ar gyfer projectau eglwysig yn unig mwyach.

Mae’r Nodyn Canllaw (pdf) yn egluro beth sy’n gymwys.

Lawrlwythwch ffurflen gais Cronfa'r Eglwys yng Nghymru (pdf).

Ers Ionawr 2015 mae ceisiadau ar gyfer Cronfa’r Eglwys yng Nghymru wedi cael eu hystyried ym mis Hydref bob blwyddyn.  

Cysylltu 

E-bost: [email protected]

TRA96048 14/01/2019