Amddiffyn plant

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i amddiffyn plant agored i niwed.

Os oes gennych unrhyw bryderon am blentyn, ffoniwch (01633) 656656 neu'r tîm cyswllt mewn argyfwng ar 0800 328 4432

Os oes tystiolaeth fod plentyn yn wynebu risg niwed, bydd y tîm gwasanaethau plant a theuluoedd yn cynnal asesiad ac ymchwiliad, ac yn gweithredu'n briodol lle bo'r dystiolaeth yn cyfiawnhau hynny. 

Mae Bwrdd Diogelu Plant Casnewydd yn dod â phartneriaid ynghyd, gan gynnwys gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a'r sector gwirfoddol.

Disgwylir i bob asiantaeth gymryd unrhyw gamau y mae eu hangen i ddiogelu plant a hybu eu lles.

Rhoi gwybod am bryder

Os oes gennych unrhyw bryderon am blentyn, rhowch wybod i swyddog y gwasanaethau cymdeithasol sydd ar ddyletswydd, ar (01633) 656656, neu ffoniwch y tîm cyswllt mewn argyfwng ar 0800 328 4432

Rhoi Terfyn ar Gosb Gorfforol yng Nghymru 

Ar 21 Mawrth 2022 mae'r gyfraith yn newid sy'n golygu y bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Nid yw'r newid yn y gyfraith yn creu trosedd newydd ond mae'n dileu hen gyfraith i ddod â hawliau plant yn unol â hawliau oedolion - ni ellir eu "cosbi'n gorfforol" mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys eu cartref, am eu hymddygiad gan unrhyw berson.

Ni fydd yn atal rhieni rhag disgyblu eu plant - mae gwahaniaeth mawr rhwng disgyblu a chosb gorfforol. Gall rhieni ddefnyddio dewisiadau amgen i gosb gorfforol fel ffordd o gynnal disgyblaeth a mynd i'r afael ag ymddygiad gwael.  Ni fydd yn ymyrryd â gallu rhiant i rianta - gall rhieni, wrth gwrs, ymyrryd yn gorfforol i gadw plentyn yn ddiogel rhag niwed. 

Dysgwch fwy am roi terfyn ar gosb gorfforol yng Nghymru a beth mae'n ei olygu ar wefan Llywodraeth Cymru

Y Gofrestr Amddiffyn Plant

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cadw Cofrestr Amddiffyn Plant yn unol ag arweiniad y llywodraeth.

Mae'r gofrestr yn gronfa ddata o blant y cadarnhawyd bod risg niwed sylweddol iddynt. Cedwir y gofrestr yn ddiogel iawn a dim ond staff wedi'u hawdurdodi sy'n gallu gweld y wybodaeth.

Dylai pob plentyn sydd wedi'i enwi ar y gofrestr fod â gweithiwr cymdeithasol cymwysedig, a fydd yn goruchwylio unrhyw waith y mae'r gynhadledd wedi'i argymell.

Mae cyfarfodydd rheolaidd â rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r teulu, sy'n cael eu cynnal rhwng cynadleddau amddiffyn plant, yn gwneud yn siwr bod cynllun amddiffyn plentyn yn cael ei weithredu.

Gwasanaethau eiriolaeth

If your child has a social worker, they have the right to an independent professional advocate.

The advocate will meet with your child and speak for them at meetings or to other professionals, to make sure your child has a say in decisions being made about them.

This service is offered by NYAS (National Youth Advocacy Service), an independent service with a free Help Line on 0808 808 1001. 

You can also contact the NYAS project coordinator for Newport on 0785091275.

Diogelu data a chyfrinachedd

Ni fydd gwybodaeth ar ffeil eich plentyn fel arfer yn cael ei rhannu gydag unrhyw asiantaeth arall heb eich caniatâd.

Oherwydd ein bod ni'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr iechyd ac addysg, byddwn yn gofyn am y caniatâd hwn oherwydd bydd yn helpu i sicrhau bod eich plentyn yn cael y gwasanaeth gorau sydd ar gael.

O dan y Ddeddf Diogelu Data, gallwch chi neu eich plentyn gael gweld ffeil eich achos, o fewn cyfyngiadau penodol.

Download the Children and Young People's Service privacy notice (pdf)

Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant

Os bydd enw plentyn ar y gofrestr, bydd Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn cael eu cynnal yn rheolaidd i benderfynu p'un a ddylai'r plentyn aros ar y gofrestr ai peidio. Gallai'r gynhadledd argymell gwaith pellach, yn dibynnu ar y cofrestriad.