Oedolion sy'n wynebu risg

Sut i roi gwybod am gam-drin posib

Mewn argyfwng dylech: 

E-bostiwch y ffurflenni wedi’u cwblhau i [email protected]

 Lawrlwythwch y canllawiau ar lenwi'r ffurflen dyletswydd i roi gwybod (pdf)

 Cofiwch y bydd popeth a ddywedwch yn cael ei drin yn sensitif ac y bydd staff profiadol yn gweithredu ac yn cymryd camau i sicrhau eich bod chi, neu’r person sy’n cael ei gam-drin, yn cael ei amddiffyn

 Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi creu trefn gyfreithiol newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a daeth i rym yn Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yn diffinio ‘oedolyn mewn perygl’ fel rhywun sydd:

  1. yn profi neu mewn perygl o brofi cam-drin neu esgeulustod
  2. angen gofal a chymorth (pa un ai ydyw’r awdurdod yn bodloni unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio), a
  3. o ganlyniad i’r anghenion hyn yn anabl i amddiffyn eu hunain yn erbyn cam-drin, esgeulustod neu berygl o’r naill na’r llall

 Cam-drin

Camdriniaeth gan unrhyw bersonr neu bersonau eraill sy’n tarfu ar hawliau dynol a sifil unigolyn yw’r diffiniad o gam-drin.

Call cam-drin amrywio o drin rhywun yn amharchus mewn ffordd sy’n effeithio’n sylweddol ar ansawdd eu bywyd, i achosi dioddefaint corfforol go iawn.

Gall cam-drin ddigwydd yn unrhyw le, mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, gweithle, canolfan ddydd neu sefydliad addysgiadol, tai cymorth, ar y stryd neu yn y cartref, a gall gynnwys: 

  • Cam-drin corfforol fel bwrw, gwthio, pinsio, ysgwyd, camddefnyddio meddyginiaeth, llosgi â dŵr, tynnu gwallt
  • Cam-drin rhywiol fel gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nas dymunir, cyffwrdd yn amhriodol, trais, ymosod yn rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad yw’r oedolyn agored i niwed wedi cydsynio iddynt, na fyddai wedi gallu cydsynio iddynt, neu y daeth dan bwysau i gydsynio iddynt. 
  • Cam-drin seicolegol neu emosiynol fel brawychu, bygwth, anwybyddu’n fwriadol, darostwng, beio, rheoli, gorfodi, aflonyddu, cam-drin geiriol,  gwahardd ffrindiau neu deulu rhag ymweld neu atal rhywun rhag derbyn gwasanaethau neu gymorth.
  • Cam-drin ariannol fel dwyn arian rhywun neu ei wario ar y pethau anghywir, rhoi pwysau ar rywun i newid eu hewyllys neu wario eu harian yn erbyn eu dymuniad, twyll neu ymelwa, rhoi pwysau mewn perthynas ag eiddo, etifeddiaeth, camddefnyddio eiddo, meddiannau neu fudd-daliadau.
  • Esgeuluso fel anwybyddu anghenion meddygol neu ofal corfforol, atal rhywun rhag cyrchu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol, peidio gofalu am rywun yn ddigonol, peidio â rhoi digon o fwyd, eu rhoi mewn perygl.

Mae trais / cam-drin domestig yn drosedd ddifrifol â chanlyniadau trawmatig sydd weithiau’n peryglu bywyd.  Mae cam-drin domestig yn cynnwys unrhyw fath o gam-drin yn ymwneud â pherthnasau neu bobl sydd mewn perthynas agos. 

Mae Trais ar sail anrhydedd yn drosedd neu ddigwyddiad treisiol sydd wedi’i gyflawni i warchod neu amddiffyn anrhydedd y teulu neu’r gymuned.

Gall cam-drin naill ai ddigwydd yn fwriadol neu o ganlyniad i anwybodaeth, diffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth.

Mae’n aml yn wir bod person yn cael ei gam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Mae cam-drin bob amser yn perthyn i un o’r pum categori uchod ond gall ffyrdd eraill o gam-drin gynnwys:

Caethwasiaeth fodern 

Arferid galw hyn yn ‘fasnachu pobl’ ond mae caethwasiaeth fodern yn drosedd gudd, eang a rhyngwladol. 

Mae troseddwyr yn manteisio ar unigolion bregus gan roi pwysau arnynt i fyw bywyd o gamdriniaeth, caethwasanaeth a thriniaeth annynol.

Gall tlodi a chyfleoedd cyfyngedig yn eu mamwlad gyfrannu at fasnachu dioddefwyr i’r DU a thrwyddi.

Rhoi gwybod am ddioddefwyr posib o gaethwasiaeth fodern   

Priodas dan orfod 

Diffinnir priodas dan orfod fel priodas heb gydsyniad dilys y ddau barti, lle nad yw un neu’r ddau briod yn (neu yn achos rhai oedolion agored i niwed, nad ydynt yn medru) cydsynio i’r briodas, a lle rhoir gorfodaeth.

Gall gorfodaeth olygu pwysau corfforol, seicolegol, ariannol, rhywiol neu emosiynol.

Camwahaniaethu a throseddau casineb

Gall camwahaniaethu a throseddau casineb fod yn nodwedd o unrhyw fath o gamdriniaeth o oedolyn agored i niwed, ond gall gael ei sbarduno hefyd oherwydd ei oedran, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, dosbarth, diwylliant, iaith, hil neu dras ethnig.

Rhoi gwybod am droseddau casineb

Cam-driniaeth sefydliadol

Gall camdriniaeth sefydliadol ddigwydd mewn sefydliadau o ganlyniad i gyfundrefnau, trefn, arferion ac ymddygiadau sy’n digwydd mewn gwasanaethau y mae oedolion agored i niwed yn eu defnyddio neu’n byw ynddynt, ac sy’n mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Pobl sy’n cam-drin

Mae’r person sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth yn aml iawn yn adnabyddus i’r person sy’n cael ei gam-drin a gallai fod yn:

  • ofalwr cyflogedig neu wirfoddolwr
  • gweithiwr iechyd, gweithiwr gofal cymdeithasol neu arall
  • perthynas, partner, ffrind neu gymydog
  • preswylydd arall neu ddefnyddiwr gwasanaeth
  • ymwelydd achlysurol neu rywun sy’n darparu gwasanaeth e.e. person trin gwallt symudol
  • pobl sy’n manteisio ar bobl agored i niwed yn fwriadol 

Rhagor o Wybodaeth

Diogelu oedolion mewn perygl  (pdf)

Cadw eich hun yn ddiogel rhag niwed  (pdf)

Pan fyddwch wedi eich cam-drin (pdf)

Pan wnaed honiad yn eich erbyn  (pdf)

Pan wnaed honiad (i staff a gweithwyr gofal)(pdf) 

Ewch i wefan Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent Gyfan 

 

 

Daw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym o Ebrill 2016 ymlaen ac mae'n creu system gyfreithiol newydd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae'n creu fframwaith sy'n dwyn ynghyd ac yn moderneiddio'r gyfraith ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gan roi mwy o bwyslais ar weithredu ataliol a dod â phobl yn agosach at y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arweiniad statudol drafft ar Ran 7 y Ddeddf yn ymwneud â diogelu, gyda dyletswyddau newydd ar gyfer diogelu oedolion, a bydd yn llywio'r ffordd y mae arfer diogelu'n cael ei gyflawni.

Bydd y ddeddfwriaeth hon yn dod i rym yn Ebrill 2016; dyma rai o'r newidiadau allweddol a'r dyletswyddau newydd:

Newid y diffiniad

Mae'r term 'oedolyn agored i niwed' wedi'i ddisodli gan y term 'oedolyn sy'n wynebu risg', sef oedolyn:  

  1. sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso 
  2. y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac 
  3. nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso

Cam-drin

Mae cam-drin yn gamdriniaeth gan unrhyw berson neu bersonau eraill sy'n ymyrryd â hawliau dynol a sifil person. Gall y cam-drin amrywio o drin rhywun gydag amharch, mewn ffordd sy'n effeithio ar ansawdd bywyd y person yn sylweddol, i achosi dioddefaint corfforol.

Gall cam-drin ddigwydd yn rhywle; mewn cartref nyrsio neu breswyl, mewn ysbyty, yn y gweithle, mewn canolfan ddydd neu sefydliad addysg, mewn tai â chymorth, ar y stryd neu yng nghartref yr oedolyn agored i niwed, a gall gynnwys: 

  • Cam-drin corfforol fel taro, gwthio, pinsio, ysgwyd, camddefnyddio meddyginiaeth, sgaldanu, tynnu gwallt
  • Cam-drin rhywiol fel gorfodi rhywun i weithgarwch rhywiol digroeso, cyffwrdd â rhywun yn amhriodol, treisio, ymosodiad rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad yw'r oedolyn agored i niwed wedi cytuno iddynt, neu na allai gytuno iddynt, neu weithredoedd rhywiol y rhoddwyd pwysau ar yr oedolyn agored i niwed i gytuno iddynt
  • Cam-drin seicolegol neu emosiynol fel dychryn, dioddef bygythiadau, anwybyddu ar bwrpas, bychanu, bwrw bai, rheoli, gorfodi, aflonyddu, cam-drin ar lafar, atal ymweliadau gan deulu neu ffrindiau neu atal rhywun rhag cael gwasanaethau neu gymorth.
  • Cam-drin ariannol fel dwyn arian rhywun neu ei wario ar y pethau anghywir, pwyso ar rywun i wneud newidiadau i'w ewyllys neu wario'i arian yn erbyn ei ewyllys, twyll neu ecsbloetiaeth, pwysau mewn perthynas ag eiddo, etifeddiaeth, cam-drin eiddo, pethau neu fudd-daliadau.
  • Esgeuluso fel anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol, atal rhywun rhag cael at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysg, peidio â gofalu am rywun yn briodol, peidio â rhoi digon o fwyd, gan achosi risg i unigolyn.

Mae trais / cam-drin domestig yn drosedd ddifrifol gyda chanlyniadau trawmatig, sydd weithiau'n bygwth bywyd. Cam-drin domestig yw unrhyw fath o gam-drin sy'n gysylltiedig â pherthnasau neu berthynas agos. 

Mae trais ar sail anrhydedd yn drais neu ddigwyddiad treisgar sydd o bosibl wedi'i gyflawni i amddiffyn neu ddiogelu anrhydedd teulu neu gymuned.

Gall unrhyw fath o gam-drin fod yn fwriadol neu o ganlyniad i anwybodaeth neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth.

Yn aml, bydd person yn cael ei gam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Mae cam-drin bob amser yn gallu cael ei briodoli i un o'r pum categori uchod, ond gall mathau eraill o gam-drin gynnwys:

Caethwasiaeth fodern 

Yr enw blaenorol ar hwn oedd 'masnachu pobl' ac mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ryngwladol gudd, helaeth.

Mae troseddwyr yn cymryd mantais ar unigolion agored i niwed trwy dwyllo, gorfodi neu roi pwysau arnynt i ddioddef bywyd o gam-drin, caethiwed a thriniaeth giaidd. Tlodi, cyfleoedd prin gartref, amodau gwleidyddol a chymdeithasol ansefydlog, anghydbwysedd economaidd a rhyfel yw'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at fasnachu pobl i'r Deyrnas Unedig a thrwyddi.

Ystyr masnachu pobl yw symud person o un lle i'r llall, i escbloetiaeth, trwy dwyllo, gorfodi, camddefnyddio grym neu gamddefnyddio natur agored i niwed unigolyn. Er iddo gael ei atal ddechrau'r ddeunawfed ganrif, mae'r ecsbloetio hwn trwy gaethwasiaeth wedi parhau a chynyddu.

Rhoi gwybod am ddioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern

Priodas dan orfod 

Y diffiniad o briodas dan orfod yw priodas a gynhelir heb gytundeb dilys y ddau barti, lle nad yw un neu'r ddau briod yn cytuno i'r briodas (neu yn achos rhai oedolion agored i niwed, lle na allant gytuno) ac mae gorfodaeth ynghlwm.

Gall gorfodaeth gynnwys pwysau corfforol, seicolegol, ariannol, rhywiol ac emosiynol.

Gwahaniaethu a throseddau casineb

Gall gwahaniaethu a throseddau casineb fod yn nodweddion o unrhyw fath o gam-drin oedolyn agored i niwed, ond gall oedran, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, dosbarth, diwylliant, iaith, hil neu darddiad ethnig yr unigolyn fod yn gymhelliad hefyd.

Rhoi gwybod am droseddau casineb

Cam-drin sefydliadol

Gall cam-drin sefydliadol ddigwydd mewn sefydliadau o ganlyniad i gyfundrefnau, arferion ac ymddygiadau sy'n digwydd mewn gwasanaethau lle mae oedolion agored i niwed yn byw neu mewn gwasanethau y maent yn eu defnyddio, ac sy'n torri eu hawliau dynol. 

Pobl sy'n cam-drin

Mae'r person sy'n gyfrifol am y cam-drin yn aml yn gyfarwydd iawn i'r person sy'n cael ei gam-drin a gallai fod:

  • yn ofalwr sy'n cael ei dalu neu yn wirfoddolwr
  • yn weithiwr iechyd, gofal cymdeithasol neu weithiwr arall
  • yn berthynas, partner, ffrind neu gymydog
  • yn breswylydd neu ddefnyddiwr gwasanaeth arall
  • yn ymwelydd achlysurol neu rywun sy'n darparu gwasanaeth, e.e. person sy'n trin gwallt yn y cartref
  • yn bobl sy'n ecsbloetio pobl agored i niwed yn fwriadol

Sut i roi gwybod am bryderon bod oedolyn yn cael ei gam-drin

Mewn argyfwng pan rydych chi'n amau bod person yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o gael ei gam-drin, neu os oes perygl uniongyrchol i chi oherwydd eich bod yn cael eich cam-drin, dylech: 

  • ffonio'r gwasanaethau brys ar 999
  • ffonio Heddlu Gwent ar (01633) 838111
  • ffonio'r tîm oedolion agored i niwed ar (01633) 656656 - ar ôl 5pm, ffoniwch y rhif Rhadffôn 0800 328 4432
  • anfon e-bost at [email protected] 
  • neu, dylech lenwi ffurflen atgyfeirio amddiffyn oedolion VA1 (pdf) neu lawrlwytho, llenwi a chadw fersiwn Word o ffurflen atgyfeirio amddiffyn oedolion VA1

Bydd popeth rydych chi'n ei ddweud wrthym yn cael ei drin yn sensitif a bydd staff proffesiynol a phrofiadol amddiffyn oedolion yn ei ddilyn i fyny, ac yn gweithredu i sicrhau eich bod chi, neu'r person sy'n cael ei gam-drin, yn cael ei amddiffyn.

Rhagor o wybodaeth

Lawrlwythwch y taflenni hyn:

Diogelu oedolion sy'n wynebu risg (pdf)

Cadw'ch hun yn ddiogel rhag niwed (pdf) 

Pan fydd honiad wedi'i wneud yn eich erbyn chi (pdf)

Pan fydd honiad wedi'i wneud (ar gyfer staff a gweithwyr gofal) (pdf) 

Ewch i wefan Bwrdd Diogelu Gwent