Cartref Nyrsio Stow Park
Abbeyfield Wales Society Ltd. sy’n rhedeg Cartref Nyrsio Stow Park. Elusen yw hi sy’n darparu tai gwarchod a gofal nyrsio i bobl dros 55 oed. Mae’r cartref ar lôn goediog dawel ger Parc Belle Vue Casnewydd, ac mae lle yno i hyd at 31 o breswylwyr â diagnosis o ddementia sydd angen gofal nyrsio arbenigol.
Mae 29 ystafell nyrsio en-suite ac mae modd mynd yn hawdd ac yn gyflym i bob llawr ar y lifft mewnol.
Gall preswylwyr fwynhau cwmni eraill yn ystafelloedd eistedd cymunedol y cartref, yr ystafell fwyta a’r ardd, a darperir gwasanaeth golchi dillad mewnol, gwasanaethau domestig a thrin gwallt.
Mae staff profiadol a chymwys iawn ar gael yn y cartref am 24 awr y dydd, sy’n sicrhau bod sylw llawn yn cael ei roi i anghenion unigol pob preswylydd, drwy gynlluniau gofal personol.
Mae Abbeyfield Nursing Care yn diwallu anghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol y preswylwyr, ac yn sicrhau bod eu hurddas, preifatrwydd a’u credoau cadarn yn cael eu cynnal.
Mae cegin â chyfleusterau llawn yn y cartref nyrsio, gyda staff arlwyo proffesiynol sy’n bodloni gofynion dietegol pob un o’r preswylwyr.
Cyfleusterau
Cysylltu
Cartref Nyrsio Stow Park, Stow Park Avenue, Casnewydd NP20 4FN
E-bost: [email protected]
Ffôn: (01633) 212262
Gwefan: www.abbeyfieldinwales.com