Tŷ Eleanor Hodson

Eleanor Hodson House

Abbeyfield Wales Society Ltd sy’n rhedeg Tŷ Eleanor Hodson, elusen gofrestredig wedi ymrwymo i gefnogi pobl hŷn.

Wedi’i leoli ger Afon Wysg yng Nghaerllion, mae’r cartref yn cynnig tai gwarchod a gofal nyrsio i bobl dros 55 oed sydd angen peth cymorth personol a chwmni.

Ceir 32 ystafell nyrsio sengl en-suite gyda llinell ffôn breifat a wi-fi.

Mae modd cyrraedd pob llawr yn hawdd ac yn gyflym mewn lifft mewnol.

Gall trigolion fwynhau cwmni pobl eraill yn yr ystafelloedd eistedd cymunedol, ystafelloedd bwyta ac ystafelloedd gwydr a’r ardd wedi’i dirlunio. Mae Tŷ Eleanor Hodson hefyd yn darparu gwasanaethau golchi dillad, domestig a thrin gwallt yn fewnol. 

Mae staff profiadol a chymwys iawn ar gael yn y cartref am 24 awr y dydd, sy’n sicrhau bod sylw llawn yn cael ei roi i anghenion unigol pob preswylydd, drwy gynlluniau gofal personol. 

Mae Abbeyfield Nursing Care yn diwallu anghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol y preswylwyr, ac yn sicrhau bod eu hurddas, preifatrwydd a’u credoau cadarn yn cael eu cynnal. 

Mae cegin â chyfleusterau llawn yn y cartref nyrsio, gyda staff arlwyo proffesiynol sy’n bodloni gofynion dietegol y trigolion.

Cyfleusterau

  • 32 gwely – 6 preswyl, 26 nyrsio

Cysylltu    

Tŷ Eleanor Hodson, Lodge Road, Caerllion, Casnewydd NP18 3QZ

E-bost:  [email protected]

Ffôn: (01633) 430994                       

Gwefan: http://www.abbeyfieldinwales.com