Ashton Park

Ashton Park residential home

Mae Ashton Park yn gartref gofal sefydledig yn edrych dros Barc Belle Vue, tua phum munud o ganol dinas Casnewydd, o fewn cyrraedd hawdd i wasanaethau lleol, ac mae modd cerdded i arosfannau bws a thrên, a gyrru’n hawdd i draffordd yr M4.

Mae’r cartref wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i ddarparu 18 gwely gofal personol i bobl dros 65 â rhywfaint o wendid meddyliol. Nid yw wedi’i gofrestru i roi gofal nyrsio.

Gellir ystyried unrhyw un o dan 65 oed ag anghenion y tu allan i’r categori cofrestru ar sail unigol, a dim ond drwy ystyriaeth arbennig gan AGGCC i amrywio’r cofrestriad dros dro.  

Ar hyn o bryd does dim uned arbenigol wedi’i ddynodi i bobl â dementia, ond mae ystafelloedd gwely gyda darpariaeth addas i fodloni anghenion unigol ar gael. 

Cyfleusterau    

  • 18 gwely
  • Preswyl, dementia’n ddibynnol ar asesiad, gofal seibiant cyffredinol

Cysylltu 

36-37 Waterloo Road, Casnewydd NP20 4FP

Ffôn: (01633) 262723

E-bost: [email protected] 

www.ashtonparkcarehome.co.uk