Gofal preswyl

Residential care_shutterstock_530955898

Mae gan gartrefi gofal staff wedi’u hyfforddi i ofalu am y trigolion ddydd a nos. 

Mae gan gartrefi gofal preswyl staff sy’n gallu gofalu amdanoch yn yr un ffordd y gallai eich perthnasau neu ffrind ei wneud.

Mae gan gartrefi nyrsio nyrsyswedi’u hyfforddi i roi gofal nyrsio pan fyddwch ei angen.

Manylion am gartrefi gofal yng Nghasnewydd 

Lawrlwythwch Ganllaw i Gartrefi Gofal yng Nghasnewydd (pdf)

Dewis cartref gofal

Weithiau gall pobl sydd angen symud i gartref gofal wneud eu trefniadau eu hunain.

Os oes angen y lefel yma o ofal arnoch, ac na fedrwch wneud eich trefniadau eich hunan, gallwn eich helpu. 

Os ydych yn gadael yr ysbyty darllenwch Dewis Cartref Gofal (pdf) i’ch helpu i ddod o hyd i gartref gofal sy’n bodloni eich anghenion.

Darllenwch adroddiadau ar archwiliadau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o gartrefi preswyl  

Asesu

Os ydych yn credu bod angen i chi symud i gartref gofal ond na allwch dalu’r ffioedd llawn eich hunan, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cymdeithasol isod.  

Byddwn yn asesu eich anghenion, sef gofyn cwestiynau i chi amdanoch chi eich hun, beth sy’n achosi anhawster i chi, y pethau yr hoffwch fedru eu gwneud a pham yr ydych yn ystyried symud i gartref gofal. 

Efallai y byddwch yn penderfynu yr hoffech barhau i fyw yn eich cartref presennol. 

Os ydy’r asesiad yn dangos mai’r peth gorau yw i chi symud i gartref gofal, y cam nesaf fydd i ddod o hyd i gartref sy’n addas i chi. 

Eich hawl i fyw lle y mynnoch!

Unwaith y mae wedi’i gytuno mai cartref gofal sydd ei angen arnoch chi, gallwch ddewis i symud i unrhyw gartref gofal cyhyd â bod:

  • lle ar gael a’i fod yn addas i’ch anghenion gofal
  • y cyngor, perchennog y cartref a chi’n gallu cytuno ar gontract
  • y cartref y dymunwch ddim yn costio mwy na’r hyn mae’r cyngor yn ei ddisgwyl i dalu am y math o ofal sydd ei angen arnoch

Os nad oes lleoedd yn eich cartref o ddewis, gallwch ddewis i fyw rhywle arall nes bod lle ar gael. 

Cysylltu 

Cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Casnewydd am ragor o wybodaeth.

TRA96029 14/01/2019