Cymorth sy'n ymwneud â thai
Coronavirus COVID-19: all housing support services are continuing to operate during the Covid-19 outbreak
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cael Grant Cymorth Tai o tua £6.3 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar gyfer pobl agored i niwed sy'n byw yn y ddinas.
Nod y grant yw atal digartrefedd a helpu pobl i ddatblygu a chynnal y sgiliau angenrheidiol i fyw mor annibynnol a hunangynhaliol â phosibl.
Mae'r cyllid hwn yn cefnogi oddeutu 2,000 o bobl agored i niwed ar unrhyw un adeg yng Nghasnewydd.
Dyma rai enghreifftiau o'r cymorth sydd ar gael:
- Help i reoli llety neu ddod o hyd i lety mwy addas
- Help i atal digartrefedd:
- Cyngor a chymorth i hawlio budd-daliadau a rheoli dyledion
- Cyngor a help gyda chyllidebu a rheoli biliau
- Cyngor ar faterion fel cymhorthion ac addasiadau, a diogelwch yn y cartref
- Help i gysylltu ag asiantaethau perthnasol, fel meddygon neu weithwyr cymdeithasol
- Cymorth i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant
- Cyfeirio at wasanaethau ac asiantaethau eraill
Sut i gael cymorth
Os oes angen i chi gael gafael ar wasanaethau cymorth tai ffoniwch Porth Casnewydd ar (01633) 235201 neu e-bostiwch newport.gateway@newport.gov.uk
Ymholiadau?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gymorth tai, Porth Casnewydd neu sut mae ein gwasanaethau yn gweithredu yn ystod achos Covid-19, cysylltwch â'r tîm Cefnogi Pobl ar (01633) 235201 neu e-bostiwch newport.gateway@newport.gov.uk
Gwybodaeth gysylltiedig
Arolwg canlyniadau ar-lein (ar gyfer darparwyr cymorth yn unig)
Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2016-17(pdf)
Cyfeiriadur Gwasanaethau Cefnogi Pobl Casnewydd (pdf)
Gweld bwletinau Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru
Dogfen gweithgareddau a ganiateir Cefnogi Pobl (pdf)
Os oes gennych gyfrif Civica, gallwch gyrchu Civica yma