Technoleg gynorthwyol a therapi galwedigaethol

Gwybodaeth, cyngor a chymorth i oedolion gydag anableddau corfforol yng Nghasnewydd

Os ydych yn gwella o salwch, yn addasu i fywyd ag anabledd neu’n berson bregus, gall gwasanaeth therapi galwedigaethol Casnewydd eich helpu i adfer eich hyder a’ch annibyniaeth.

Gallwn wneud hyn drwy gynnig cyngor, trefnu cyfarpar arbennig neu wneud addasiadau i’ch cartref.

Gwybodaeth a chyngor

Holi SARA - adnodd ar-lein sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol ar gynhyrchion i oedolion hŷn neu anabl neu i blant anabl.

Dewis Cymru- gwybodaeth iechyd, help a gwasanaethau lleol

Addasiadau a chyfarpar

Gall addasiadau, e.e. gosod rheiliau gafael, rampiau ac ati, eich galluogi i symud yn ddiogelach o amgylch eich cartref a’ch helpu i fyw’n fwy annibynnol.

Os yw eich cartref wedi ei rentu’n breifat, cysylltwch â Gofal a Thrwsio Casnewydd.

Os yw’ch cartref wedi’i rentu gan Gymdeithas Tai, cysylltwch â’ch landlord e.e. Cartrefi Dinas Casnewydd 

Darllenwch y dudalen grantiau tai am ragor o wybodaeth.

Gallwch eich cynghori i ystyried prynu cyfarpar neu gall gael ei ddarparu drwy Taliadau Uniongyrchol.   

Hyb Clyfar

Mae Hyb Clyfar y cyngor ym Marchnad Casnewydd yn dangos y dechnoleg gynorthwyol ddiwetharaf sydd ar gael a all gefnogi pobl i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol gartref.

Mae'r dechnoleg sydd ar gael i'w gweld yn cynnwys y Komp, technoleg gynorthwyol sy'n dda i bobl hŷn sy'n galluogi pobl oedrannus i gysylltu â'r rhai sydd bwysicaf i'w hiechyd a'u lles.

Mae technolegau clyfar eraill sy'n cael eu harddangos yn cynnwys Amazon Alexa, clychau drysau Ring a systemau gwresogi Hive, yn ogystal â systemau teleofal ac amryw synwyryddion symudiadau neu gwympiadau.

Mae'r hyb hefyd yn fan lle bydd trigolion yn gallu siarad ag aelodau o dîm therapi galwedigaethol y cyngor a chael cyngor ynghylch defnyddio'r dechnoleg wahanol.

Trefnwch apwyntiad i ymweld â'r Hyb Clyfar

Lawrlwythwch Canllaw ar Cymhorthion a Thechnoleg Gynorthwyol (pdf)

Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol

Gallwn asesu eich anghenion yn ystod galwad ffôn a gallwn gynnig gwybodaeth a chyngor heb gyflawni unrhyw asesiad arbenigol. 

Cyflawnir therapi galwedigaethol gan wahanol dimau yng Nghasnewydd gan gynnwys y tîm adnoddau cymunedol, sy’n helpu oedolion i aros yn annibynnol yn eu cartrefi a thîm therapi galwedigaethol integredig yr ysbyty, sy’n cynnig asesiadau arbenigol i oedolion sydd angen cymorth yn y tymor byr neu hir.

Byddwn yn eich cynghori ar ba dîm sydd orau i weithio gyda chi.

Gofyn am gefnogaeth therapi galwedigaethol

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rydym yn blaenoriaethu yr holl geisiadau yn ôl yr angen ac yn ôl pa mor frys yw’r risg, e.e. pobl sydd â salwch terfynol, na allant  sefyll neu gyda chyflwr sy’n gwaethygu’n gyflym.

Byddwn yn ystyried ceisiadau eraill yn ôl trefn dyddiad oni bai y byddwch yn dweud wrthym ni bod newid yn eich amgylchiadau a all olygu byddwn yn eich gweld yn gynharach.

Byddwn yn eich ffonio i drefnu apwyntiad pan fyddwn yn gallu ymweld â chi. 

Os nad oes modd siarad â chi dros y ffôn, byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â ni.

Os na chawn ymateb o fewn 14 diwrnod, caiff yr atgyfeiriad ei gau a bydd angen i chi gysylltu â ni eto pan fyddwch yn gallu gwneud hyn.

Os nad oes angen apwyntiad neu asesiad arnoch mwyach am unrhyw reswm, cysylltwch â ni ar (01633) 656656 i ganslo eich cais.

Gallwn drefnu asesiadau gartref neu mewn canolfannau gofal dydd. 

Ar ôl i ni gwrdd â chi a gwneud asesiad, byddwn yn trafod pa ddewisiadau sydd ar gael i chi.   

Gofynnwch am asesiad Therapi Galwedigaethol drwy ffonio Cyngor y Ddinas ar (01633) 656656, e-bostiwch [email protected] neu gofyn am gefnogaeth therapi galwedigaethol

Gofyn am gymorth therapi galwedigaethol