Asesiad oedolyn

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ddeddf newydd sy'n rhoi mwy o ddylanwad i chi ar y gofal a'r cymorth rydych chi'n eu cael.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi help i bobl ar sail asesiad o anghenion.

Bydd yr asesiad yn ein helpu i ddeall pa gymorth y mae ei angen arnoch ac a ydych chi'n gymwys i gael help gennym ni.

Ni chodir tâl am asesiad.

Cysylltwch â'r tîm dyletswydd yng Nghyngor Dinas Casnewydd i ofyn am asesiad.

Gofalwyr

Mae llawer o bobl yn dibynnu ar berthynas neu ffrind am gymorth â thasgau dydd i ddydd.

Yr enw ar y bobl hyn yw gofalwyr a byddwn yn ystyried eu hanghenion wrth gynnal eich asesiad, oni bai eich bod chi neu eich gofalwr yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny.

Mae'n bosibl y bydd gan eich gofalwr yr hawl i gael ei asesiad ei hun