Beth yw maethu?
Mae teuluoedd maeth yn cynnig cartref diogel a gofalgar i blentyn neu berson ifanc na all fyw gyda'i rieni neu aelodau eraill o'r teulu.
Mae Maethu Casnewydd angen pobl sy'n gallu cynnig cartref cefnogol, cynnes, sefydlog a diogel i blant a phobl ifanc.
Gall maethu fod....
- dros dro, o arhosiad dros nos i ychydig fisoedd
- yn barhaol, i gynnig cartref i blentyn nes iddo ddod yn oedolyn
- yn ofal seibiant i deuluoedd sydd angen un seibiant, neu rai rheolaidd
Pam mae plant yn cael eu maethu?
Mae llawer o resymau pam y gallai fod angen gofal maeth ar blentyn a bydd profiad pob plentyn yn unigryw.
Gall fod oherwydd salwch yn y teulu, chwalfa yn y cartref neu am fod y plentyn mewn perygl neu wedi dioddef niwed. Bydd llawer o'r plant wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth; gall hyn fod yn gorfforol, yn rhywiol ac yn emosiynol neu'n esgeulustod. Bydd stori pob plentyn yn wahanol a bydd angen ei fagu gyda gofal a chymorth er mwyn rheoli a deall ei emosiynau o golled a gwahanu.
Mae Maethu Casnewydd yn sefydliad dielw sydd wedi ymrwymo i roi'r cyfleoedd gorau i blant gyflawni eu llawn botensial.
Gallwn wneud hyn drwy recriwtio gofalwyr maeth brwdfrydig a gefnogir gan weithwyr cymdeithasol medrus iawn a rhoi cyfleoedd hyfforddi a datblygu iddynt.
Lawrlwythwch Ddatganiad o Ddiben y Gwasanaeth Maethu (pdf)
Ffoniwch (01633) 210272 i gael gwybod mwy neu llenwch y ffurflen isod
(Gallwch gofrestru am gyfrif cyngor pan fyddwch yn dilyn y ddolen hon, neu cliciwch ar 'gwestai' i roi eich manylion)