Pobl Ifanc

Fostering square 620083109

Gwybodaeth i Bobl Ifanc

Nid yw pob plentyn yn byw gartref gyda'u rhieni a gall fod llawer o resymau pam nad yw hyn bob amser yn bosibl.

Pan na allwch aros gyda'ch rhieni, bydd y gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn chwilio am aelod arall o'r teulu, megis neiniau a theidiau neu fodryb/ewythr neu ffrind i'r teulu a allai ofalu amdanoch yn lle hynny.  

Pan fydd hyn yn digwydd gall fod yn ddryslyd yn aml ac efallai y bydd gennych nifer o gwestiynau yr hoffech eu gofyn. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gallu helpu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn a bydd eich gofalwyr yn gallu eich cefnogi gyda hyn.

Mae gwahanol ffyrdd 'cyfreithiol' y gallwch aros gyda gofalwr teuluol neu ffrind:

  • Efallai y bydd eich gofalwr yn cael ei asesu i fod yn 'ofalwr maeth'. Dyma lle mae gan yr Awdurdod Lleol (Casnewydd) gyfrifoldeb cyfreithiol drosoch ond bydd eich gofalwr yn gofalu amdanoch o ddydd i ddydd.
  • Gall eich gofalwr ofalu amdanoch yn gyfreithiol drwy ddod yn 'Gwarcheidwad Arbennig'. Yn yr achos hwn, bydd gan eich gofalwyr a'ch rhieni gyfrifoldeb cyfreithiol drosoch. Fodd bynnag, bydd gan eich gofalwr gyfran fwy o gyfrifoldeb. Mae hyn yn golygu, os nad yw eich gofalwyr a'ch rhieni'n cytuno, eich gofalwyr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Ni waeth sut y cewch ofal, gallwch ddal i gael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Gallai hyn fod yn gymorth emosiynol i'ch helpu i ddeall y newidiadau yn eich bywyd ac i ddeall y rhesymau pam mae penderfyniadau wedi'u gwneud, neu gallai fod yn gymorth mwy penodol gan ganolbwyntio ar faterion eraill sy'n bwysig i chi.

Os ydych yn teimlo yr hoffech gael help neu gymorth, siaradwch â'ch gofalwr neu'ch gweithiwr cymdeithasol os oes gennych un. Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm Teulu a Ffrindiau ar 01633 235317 neu e-bostio [email protected] a gofyn am gael siarad â gweithiwr cymdeithasol.  

Eich hawliau

Fel person ifanc mae gennych hawliau sy'n gyfreithiol rwymol ac yn nodi'r hyn y dylai Llywodraethau ei wneud i'ch cefnogi. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yw’r enw ar hyn. Mae’n cynnwys eich hawl i fynegi eich barn ac i’ch llais gael ei glywed, yn ogystal â'ch hawliau mewn perthynas â'r gofal a gewch. Gallwch weld rhestr lawn o'ch hawliau yn www.savethechildren.org.uk

Gallwch hefyd gael cymorth annibynnol drwy'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS). Mae NYAS yn cynnig eiriolwyr sy'n gallu eich cefnogi a gwrando arnoch a helpu i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ei wefan yma neu drwy ffonio 0808 808 1001.

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofidiau neu bryderon, cysylltwch â'r tîm teulu a ffrindiau ar 01633 235317 neu e-bostiwch [email protected]

Gallwch hefyd gysylltu â'ch gweithiwr cymdeithasol.