Gwybodaeth a Chyngor

FatherChildFamilyFoster

Gallwch geisio cyngor a gwybodaeth annibynnol gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.  Gallech hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol gan Plant yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol i ofalwyr teuluol a ffrindiau.

Mae gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) Swyddog Cyfranogiad Rhieni Casnewydd hefyd a all roi gwybod am grwpiau cymorth lleol a gwasanaethau a allai fod o fudd i ofalwyr teuluol a ffrindiau, cysylltwch â GAVO yn uniongyrchol ar 01633 241578.

Gall pobl ifanc hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) am gymorth annibynnol drwy ei wefan https://youngpeople.nyas.net/. Fel arall gallwch ei ffonio ar 0808 808 1001.

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofidiau neu bryderon, cysylltwch â'r tîm teulu a ffrindiau ar 01633 235317 neu e-bostiwch [email protected]

Gallwch hefyd gysylltu â gweithiwr cymdeithasol y plentyn/plant.