Mabwysiadu

Mabwysiadu yw'r broses pan fydd plant sy'n methu byw gyda'u rhieni genedigol yn dod i fyw gyda chi ac yn dod yn aelodau cyfreithiol o'ch teulu, fel petai'r plant wedi'u geni i chi.

Ar ôl i Orchymyn Mabwysiadu gael ei wneud, ni fydd gan rieni genedigol y plentyn unrhyw hawliau cyfreithiol (cyfrifoldeb rhiant) pellach dros y plentyn. 


Mae'r holl blant sydd angen cael eu mabwysiadu yn y Deyrnas Unedig yng ngofal awdurdodau lleol a bydd bron pob un ohonyn nhw'n byw mewn cartrefi maeth dros dro tra byddant yn aros i'r cartref mabwysiadu cywir gael ei ddarganfod.

Gan amlaf, bydd rhyw fath o gyswllt mabwysiadu gydag aelodau'r teulu genedigol, naill ai cyswllt wyneb yn wyneb neu drwy lythyron sy'n cael eu cyfnewid trwy weithwyr cymdeithasol, er mwyn cadw manylion y teulu mabwysiadu yn gyfrinachol.

Asiantaethau mabwysiadu

Er mwyn mabwysiadu, mae'n rhaid i chi gael eich cymeradwyo gan asiantaeth fabwysiadu.

Mae pob awdurdod lleol yn gweithredu fel asiantaeth fabwysiadu ac mae asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol yn bodoli hefyd.

Mae'r asiantaethau'n cymeradwyo teuluoedd yn fabwysiadwyr, ond nid oes ganddynt unrhyw blant i'w gosod.

Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru (SEWAS)

Mae'r gwasanaeth mabwysiadu yng Nghasnewydd yn cael ei redeg gan Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru fel consortiwm gyda Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen.

Ewch i wefan Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru  i ddod o hyd i'r holl wybodaeth ddiweddaraf a dechrau unrhyw ymholiadau i fabwysiadu. 

Mae mabwysiadu gan rieni llys yn broses wahanol ond mae hefyd yn cynnwys Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru.

Cyswllt

Tîm Mabwysiadu, 2il Lawr, Bloc B, Tŷ Mamheilad, Ystad Parc Mamheilad, Mamheilad, Pontypŵl, Torfaen NP4 0HZ
Ffôn: (01495) 355766
E-bost: [email protected]

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm; os ydych chi'n gadael neges iddyn nhw y tu allan i'r oriau hyn neu ar ŵyl banc, byddan nhw'n ymateb cyn gynted â phosibl.

TRA120178 1/06/2020