Datganiad ar seibiannau byr

Cefnogi Plant Anabl

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd ddyletswyddau penodol i blant anabl a'u teuluoedd, gan gynnwys sicrhau bod gwasanaethau ar gael i blant anabl, hybu cydraddoldeb a'u hannog nhw i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Mae gennym ddyletswydd i gynnig amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd â phlant anabl er mwyn lleihau effaith unrhyw anabledd gymaint â phosibl a galluogi'r plentyn a'i deulu i fyw bywyd mor gyffredin â phosibl.

Rydym yn diffinio 'gofalwr' am blentyn anabl fel y caiff ei ddehongli yn Neddf Plant 1989, sef person sy'n darparu gofal i blentyn anabl ac:

(a) sydd yn rhiant i'r plentyn, neu'n

(b) berson heblaw am riant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn hwnnw.

Wrth gyflawni ein dyletswydd i ddarparu gwasanaethau i blant anabl a'u teuluoedd, rhaid i ni ystyried anghenion y gofalwyr hynny:

(a) na fyddent yn gallu parhau i ddarparu gofal i'r plentyn anabl oni bai bod seibiannau rhag gofalu'n cael eu rhoi iddynt; ac

(b) a fyddai'n gallu rhoi gofal i'r plentyn anabl yn fwy effeithiol pe bai seibiannau rhag gofalu'n cael eu rhoi iddynt er mwyn caniatáu iddynt:

(i) gyflawni addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden rheolaidd,

(ii) bodloni anghenion plant eraill yn y teulu'n fwy effeithiol, neu

(iii) gyflawni tasgau bob dydd sy'n gorfod cael eu cyflawni ganddynt i redeg yr aelwyd.

Rydym yn darparu seibiannau tymor byr rheolaidd a dibynadwy gyda theuluoedd maeth neu mewn unedau preswyl. Hefyd, rydym yn cynnig gwasanaethau cymorth yn y cartref a chymorth i blant anabl gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol a hamdden yn y gymuned, ochr yn ochr â chyfoedion nad ydynt yn anabl.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â chydweithwyr iechyd i gynnig darpariaeth arbenigol i blant sydd ag anghenion iechyd corfforol a/neu gymhleth. Mae'r tîm plant anabl hefyd yn cynnig gwasanaethau seibiant byr, wedi'u teilwra i fodloni anghenion unigol, ar y cyd â sefydliadau gwirfoddol, gweithwyr addysg proffesiynol a gwasanaethau arbenigol eraill lle bo'r angen.

Mae'r holl wasanaethau seibiannau byr yn cael eu hadolygu o fewn amserlenni statudol a'u nod yw cynnwys barn a dymuniadau plant anabl a'u teuluoedd.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wrthi'n drafftio holiaduron newydd i gael adborth gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â'u rhieni a'u gofalwyr, am y seibiannau byr sy'n cael eu darparu a sut i'w gwella.

Bydd y tîm plant anabl yn cyfarfod â rhieni neu ofalwyr yn unigol pan fyddant yn gofyn am gyfarfod, i fynd i'r afael ag unrhyw ofidiau neu bryderon.

Rydym yn ystyried unrhyw gwynion am ein gwasanaethau o ddifrif ac yn delio â nhw'n sensitif.

Rydym yn croesawu adborth uniongyrchol gan ein hysgol arbennig leol trwy foreau coffi unwaith y mis i rieni a gofalwyr plant anabl ac rydym yn gwneud ymdrech i sicrhau bod aelodau'r tîm yn bresennol er mwyn gwrando ar adborth am ein gwasanaethau.

Rydym yn cael adborth gan grwpiau a fforymau cymorth i rieni / gofalwyr ac mae ein swyddog gwybodaeth ar gael i gynnig cyngor a gwybodaeth. 

Bydd ein swyddog gwybodaeth yn anfon negeseuon at y rhieni a'r gofalwyr ar y mynegai anabledd (tua 471 o deuluoedd) er mwyn ymgynghori â nhw. Hefyd, rydym yn ymgynghori drwy Grŵp Cymorth Awtistiaeth Casnewydd (cyfarfod misol) a Parents for Change (yn fisol).

Mae rhestr i'w gweld isod o'r amrywiaeth o seibiannau byr sy'n gallu cael eu cynnig i blentyn neu berson ifanc anabl, pan fydd asesiad yn dangos bod angen

Seibiannau byr i'r teulu

Dyma pan fydd plentyn yn cael ei gyflwyno i ofalwr cymeradwy arbenigol, ar ôl i asesiad amlygu anghenion y plentyn. Mae seibiannau byr rheolaidd, wedi'u cynllunio, yn cael eu cynnig trwy ddau ofalwr wrth gefn sydd â phrofiad a dealltwriaeth helaeth o weithio gyda phlant anabl. Mae gan y gofalwyr yr hyfforddiant a'r offer arbenigol angenrheidiol, a mewnbwn gan yr awdurdod lleol i gefnogi plant anabl a'u teuluoedd yn ogystal.

Hefyd, mae rhai gofalwyr maeth yn cynnig seibiannau byr i rai pobl ifanc anabl yng Nghasnewydd.

Nod y gwasanaeth yw galluogi plant i gael profiadau newydd, eu helpu i wneud ffrindiau, bod yn fwy annibynnol a rhoi cyfle i'r teulu gael saib haeddiannol gan wybod bod eu plentyn yng ngofal rhywun y gallant ymddiried ynddo, mewn cartref cyfarwydd.

Fel arfer, mae'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y gofalwr, gyda chynllun rhagarweiniol o ymweliadau er mwyn i'r plentyn neu'r person ifanc gyfarwyddo.

Gall seibiannau byr amrywio o ychydig oriau'r wythnos i arhosiad dros nos neu ar benwythnos yn rheolaidd.

Tŷ Oakland

Mae Tŷ Oakland yn lleoliad seibiannau byr sy'n cynnig seibiannau byr dros nos, wedi'u cynllunio, i blant a phobl ifanc ag anabledd difrifol. Mae'n derbyn plant a phobl ifanc hyd at 17 oed a darperir amgylchedd diogel, gofalgar ac ysgogol.

Mae Tŷ Oakland hefyd yn cynnig gwasanaeth dydd i blant a phobl ifanc ag anabledd difrifol. Bydd hyd yr arhosiad yn amrywio, ond ni fydd yn fwy nag wythnos.

Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, trwy'r Tîm Plant Anabl, yn cynnig gwasanaeth taliadau uniongyrchol i'r plant anabl hynny a'u teuluoedd sydd wedi cael asesiad sy'n dangos eu bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gall Taliadau Uniongyrchol fod yn ffordd hyblyg o ddarparu gofal i blentyn a'i deulu, ar yr amod bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni.

Gall amrywiaeth o ofal gael ei ddarparu drwy'r gwasanaeth hwn i sicrhau bod anghenion person ifanc a'i deulu'n cael eu bodloni, o ychydig oriau o gymorth yr wythnos i gymorth mwy sylweddol.

Cynigir cyngor, arweiniad a chyfraniad ymarferol i'r bobl sy'n dymuno i'w hanghenion gael eu bodloni trwy wasanaeth taliadau uniongyrchol.

REACH

Mae REACH yn rhan o Grŵp Seren ac mae'n cynnig gwasanaeth i bobl ifanc anabl a'u teuluoedd, wedi'i brynu gan y Gwasanaethau Plant. Mae'n wasanaeth o safon sy'n cynnig amrywiaeth hyblyg o wasanaethau ymarferol a chefnogol i bobl ifanc anabl.

Nod REACH yw:

• helpu unigolion i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol

• helpu gyda rhaglenni hyfforddiant, fel sut i ddal bws

• helpu unigolion i gymdeithasu a datblygu perthnasoedd i ffwrdd o'u cartref

• galluogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau byw'n annibynnol a'u hunan-barch er mwyn gallu byw'n annibynnol yn y gymuned, trwy helpu gyda chadw tŷ, sgiliau bywyd a gofalu am arian

• annog hunaneiriolaeth;

• annog unigolion i reoli eu gofal personol.

• gall gwasanaeth arbenigol yn y cartref gael ei ddarparu lle bo'r angen

Gwasanaethau arbenigol

Mae'r tîm plant anabl yn ystyried plant yn unigol ac, os bydd angen, bydd yn ystyried pa wasanaethau arbenigol a allai gael eu darparu. 

Chwaraeon Anabledd Cymru

Mae'r tîm plant anabl yn ariannu swyddog datblygu chwaraeon anabledd yn rhannol ac mae nifer o glybiau a gweithgareddau chwaraeon ar gael ar gyfer plant anabl, gan gynnwys trampolinio, nofio, pêl-droed a thennis.

Clybiau chwarae a chynlluniau chwarae 

Mae tair sesiwn clwb chwarae'n cael eu cynnal bob dydd Sadwrn yng Nghanolfan Blant Serennu ar gyfer plant anabl 5 i 11 oed.

Mae cynllun chwarae arbenigol gyda chymorth dwys i blant anabl iawn yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r haf. 

Yn achos plant sydd angen gofal nyrsio, mae gwasanaeth arbenigol yn cael ei ddarparu gan dîm plant anabl y cyngor a thîm nyrsio cymunedol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. 

Darllenwch ragor am glybiau chwarae a chynlluniau chwarae

Clwb ieuenctid 

Mae tri chlwb ieuenctid arbenigol yng Nghanolfan Blant Serennu ar gyfer pobl ifanc anabl 11 i 17 oed.

Mae sesiynau dydd Llun yn cael eu cynnal bob pythefnos ac mae sesiwn dydd Iau'n cael ei chynnal bob wythnos.

Clybiau ar ôl ysgol

Caiff clybiau ar ôl ysgol arbenigol eu cynnal ddwywaith yr wythnos yng Nghanolfan Blant Serennu i bobl ifanc anabl 5 i 13 oed a 14 i 17 oed.

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Mae'r Clwb Sgiliau Byw'n Annibynnol ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac mae'n cael ei gynnal unwaith yr wythnos, gyda'r nod o ddatblygu sgiliau annibyniaeth fel rhan o'r broses o bontio i oedolaeth.

Gweithgareddau eraill

Mae Canolfan Blant Serennu yn cynnig gweithgareddau eraill, gan gynnwys dosbarth dawns, sesiynau sgiliau, sesiynau a gwersi nofio arbenigol, sesiynau nofio i'r teulu, clwb brodyr a chwiorydd, a chlwb aros a chwarae. Mae pob sesiwn yn cael ei chynnal unwaith yr wythnos.

Cerdyn hamdden anabledd

Mae cerdyn hamdden anabledd ar gael i bob plentyn anabl sydd wedi ei gofrestru ar fynegai anabledd Casnewydd.

Mae hyn yn golygu bod plentyn anabl ac un gofalwr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol am ddim ledled cyfleusterau hamdden Casnewydd.

Cymhwysedd 

Er mwyn manteisio ar Seibiannau Byr i'r Teulu, REACH, seibiannau byr Tŷ Oakland a chyfraniad gwasanaethau eraill lle bo'r rhain wedi'u henwi, bydd angen i blant a phobl ifanc fodloni un o'r meini prawf o Adran A ac un o'r meini prawf o Adran B isod. Bydd anghenion plentyn neu berson ifanc a'i deulu'n cael eu hamlygu trwy asesiad cychwynnol gan weithiwr cymdeithasol o'r Tîm Plant Anabl:

Adran A

1. Plant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd â nam corfforol, dysgu neu synhwyraidd difrifol, gan gynnwys anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, sy'n gronig ac yn sylweddol.

Mae anabledd difrifol yn un sy'n golygu:

• bod ar y plentyn angen cymorth sylweddol gan offer neu berson arall i gyflawni swyddogaethau sylfaenol e.e. gofal personol, bwyta, gofal dros nos, cerdded, ac

• y byddai disgwyl i'r plentyn barhau i fod angen cymorth gan offer neu berson arall i gyflawni swyddogaethau sylfaenol pan fydd yn oedolyn.

2. Plant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd â salwch angheuol neu salwch sy'n rhoi bywyd yn y fantol.

Adran B

1. Perygl neu risg uniongyrchol.

2. Sefyllfa risg lle mae eich plentyn yn debygol o ddioddef niwed sylweddol.

3. Mae iechyd a datblygiad y plentyn yn debygol o gael eu hamharu neu eu hamharu ymhellach os na chaiff y gwasanaethau eu darparu.

Gallai plant sy'n bodloni'r meini prawf yn Adran A ond nid Adran B fod yn gymwys i gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.

Yn ogystal, bydd y Tîm Therapi Galwedigaethol yn asesu'r plentyn naill ai fel petai wedi'i atgyfeirio am y tro cyntaf neu fel plentyn sy'n hysbys i dimau plant eraill, lle bo angen offer a chyngor arbenigol, e.e. diogelwch yn y cartref.

Y ddarpariaeth sydd ar gael i fodloni anghenion plant anabl yng Nghasnewydd

• Cymysgedd o wasanaethau seibiannau byr arloesol, rheolaidd, dibynadwy ac arbenigol yng Nghasnewydd, lle y bydd asesiad yn dangos bod eu hangen.

• Caiff gweithwyr allgymorth eu darparu fel y gall teuluoedd gael saib a gall pobl ifanc ddatblygu eu hannibyniaeth.

• Mae Tîm Plant Anabl Casnewydd yn gweithio gyda'i hosbis leol er mwyn i ofal seibiant byr gael ei ddarparu i'r plant hynny sydd ag anghenion iechyd eithriadol o gymhleth neu sydd â disgwyliad oes byr.

• Gall gofal mewn argyfwng gael ei ddarparu lle y bo'i angen neu lle y bo pryderon diogelu'n codi.

• Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda'r tîm anghenion addysgol arbennig a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i fodloni anghenion plant anabl a'u teuluoedd pan fydd angen cymorth dwys nad yw gwasanaethau craidd yn gallu ei ddarparu.

•Mae gwybodaeth ar gael trwy wefan Cyngor Dinas Casnewydd, taflenni, Wicked News (cylchlythyr), drwy'r e-bost, hysbysfyrddau yng Nghanolfan Blant Serennu a phosteri mewn meddygfeydd.

• Gall gwybodaeth gael ei darparu mewn fformatau eraill os gofynnir am hynny a gall copïau papur o'n datganiad ar seibiannau byr gael eu dosbarthu os nad oes modd cael at gyfrifiadur.

• Caiff amrywiaeth o wasanaethau eu cynnig os oes asesiad yn dangos bod eu hangen, ac mae'r rhain yn briodol i oedran ac yn parchu unrhyw anghenion diwylliannol neu grefyddol. Mae anghenion o'r fath yn cael eu bodloni mewn ffordd hyblyg a chreadigol.

• Mae amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon ar gael yn benodol i blant anabl mewn cyfleusterau hamdden ar draws Casnewydd, a chaiff plant anabl eu hannog i ddefnyddio gwasanaethau cyffredinol lle y bo'n bosibl hefyd.

• Mae clybiau chwarae a chynlluniau chwarae cynhwysol ar gael mewn nifer o leoliadau ar draws Casnewydd.

• Mae cynllun chwarae arbenigol sydd ar gael yn ystod yr haf i blant anabl eisoes yn bodoli.

• Gall rhieni a phobl ifanc droi at wasanaeth cyfeillio a mentora yn y sector gwirfoddol, lle y bo'r angen.

• Mae diwrnodau hwyl yn cael eu darparu ar draws Casnewydd mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.

• Gall ein hysgol arbennig leol ac ysgolion eraill ddarparu gweithgareddau a chlybiau i blant anabl.

• Mewn rhai amgylchiadau, gellir ystyried darparu cludiant fel y gall y plentyn neu'r person ifanc gael seibiant byr.

• Mae staff profiadol a gwybodus yn cefnogi'r bobl ifanc anabl hynny sydd angen cymorth â phontio i wasanaethau oedolion, gan weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf posibl.

• Mae asesiadau a mewnbwn ar gael i frodyr a chwiorydd plant anabl, lle y bo'u hangen. Mae'r gwasanaeth gofalwyr ifanc ar gael i gefnogi brodyr a chwiorydd, os gwneir cais amdano a lle y bo'i angen.

• Pan ofynnir amdanynt, caiff asesiadau o anghenion gofalwyr eu cynnig a'u cynnal.

Adolygiad o'r Datganiad

Bydd y datganiad hwn ar seibiannau byr yn cael ei adolygu'n flynyddol ac erbyn 1 Medi 2015 ar yr hwyraf.