Y gwasanaeth seibiannau byr

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig seibiannau byrdymor i deuluoedd plant anabl, yn ogystal â gwasanaethau cymorth fel y gall plant anabl gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. 

Seibiannau byr i'r teulu

Caiff seibiannau byr rheolaidd, wedi'u cynllunio, eu cynnig gan ofalwyr sydd â'r hyfforddiant a'r profiad i gefnogi plant anabl a'u teulu.

Nod y gwasanaeth yw helpu'r plentyn i wneud ffrindiau, bod yn fwy annibynnol a rhoi saib haeddiannol i deuluoedd. 

Gall seibiannau byr amrywio o ychydig oriau bob wythnos i arhosiad rheolaidd dros nos neu ar benwythnos. 

Tŷ Oakland

Mae Tŷ Oakland yn cynnig seibiannau byr dros nos wedi'u cynllunio i blant a phobl ifanc sydd ag anabledd difrifol, mewn amgylchedd diogel, gofalgar ac ysgogol. 

Mae gwasanaeth dydd yn cael ei gynnig hefyd. 

Mae arnom eich angen chi; a allwch chi helpu?

Mae angen pobl i helpu plant anabl a'u teulu trwy gynnig gofalu am blentyn am ychydig oriau, dros nos, am benwythnos neu am gyfnod hirach.

Helpwch roi newid braf i blentyn a chynnig saib i'w rieni.

Bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu cynnig i chi a chaiff lwfans ei dalu. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm maethu yng Nghyngor Dinas Casnewydd neu anfonwch e-bost at [email protected]