Gweithio ym maes gofal plant

Family Information Service logo_June 2018

Mae gweithio gyda phlant yn galw am ymdrech ond mae'n rhoi boddhad ac mae'n addas i bobl o bob oedran. 

Mae swyddi'n cynnwys arweinydd cylch chwarae, gweithiwr chwarae, cynorthwy-ydd meithrin neu warchodwr plant, ac mae'n bosibl ennill mwy o gymwysterau wrth i chi weithio.

Cymwysterau

Mae Cyngor Gofal Cymru yn rhestru'r cymwysterau y mae eu hangen i weithio yn sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. 

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Bydd angen i bobl sydd eisiau gweithio gyda phlant wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chael tystysgrif gan y GDG cyn cael eu hystyried ar gyfer lleoliad.

Darllenwch wybodaeth Llywodraeth Cymru am yrfaoedd gyda phlant a phobl ifanc. 

Dod yn warchodwr plant cofrestredig

Cyn y gallwch ddechrau gweithio yn eich cartref eich hun yn gofalu am blant o dan 8 oed, rhaid i chi gofrestru fel gwarchodwr plant gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Gallech fod yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn cofrestru, oni bai bod eithriad gennych. Gweler Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. 

Yn ystod y broses gofrestru, bydd eich cartref yn cael ei archwilio i wneud yn siwr eich bod chi a'ch cartref yn addas i ofalu am blant.

Mae'r Gymdeithas Broffesiynol er Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'ch helpu i gofrestru fel gwarchodwr plant.

A ydych chi'n warchodwr plant cofrestredig? Ychwanegwch eich manylion at gronfa ddata gofal plant Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd

Gweithiwr cynllun chwarae

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant yng nghynlluniau chwarae Casnewydd yn ystod gwyliau'r ysgol, ewch i dudalennau swyddi Cyngor Dinas Casnewydd i weld y swyddi gwag diweddaraf, sy'n cael eu harddangos fel arfer o leiaf 3 mis cyn dechrau gwyliau'r haf.

Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref

Mae'n bosibl y bydd gan bobl sydd eisoes yn gofalu am blant ddiddordeb yn y cynllun newydd, sef Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref. Cynllun gwirfoddol ydyw sy'n cadarnhau:

  • bod gan yr ymgeisydd gymhwyster gofal plant addas
  • bod yr ymgeisydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf priodol
  • bod yr ymgeisydd wedi cael gwiriad gan y GDG