Cymorth i fusnesau gofal plant

Family Information Service logo_June 2018

Helpwch ni i gadw cofnodion yn gyfredol fel bod rhieni a gofalwyr yn gallu cael gwybodaeth gywir am y ddarpariaeth gofal plant yng Nghasnewydd - byddwn yn arddangos gwybodaeth am eich busnes am ddim.  

YN NEWYDD! Gofal plant di-dreth yn 2017 - a ydych chi'n barod?

Gofyn am gyngor cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer safle gofal plant

Grantiau 

Os oes gennych fusnes gofal plant yng Nghasnewydd sydd wedi cofrestru gydag AGGCC ac mae angen offer newydd arnoch, rydych chi eisiau cynnig mwy o leoedd gofal plant neu os yw'ch busnes yn dioddef problemau cynaliadwyedd, efallai bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd yn gallu helpu trwy roi grant.

Gall darparwyr gofal plant newydd neu sefydledig sydd â lleoliad gofal plant yng Nghasnewydd, sy'n gallu dangos bod gwasanaethau'n cael eu cynnig o fewn ffiniau dinas Casnewydd ac sydd wedi cofrestru neu'n paratoi i gofrestru gydag AGGCC, wneud cais.

Gall grwpiau rhieni a phlant bach/ti a fi wneud cais am grant 2, y grant ar gyfer offer. Gweler y nodiadau arweiniad isod. 

Lawrlwytho'r ffurflen gais ar gyfer grantiau gofal plant 2016/2017 (pdf)

Lawrlwytho'r nodiadau arweiniad ar gyfer gwneud cais am grantiau gofal plant (pdf)

Anfonwch e-bost at Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd i ddysgu rhagor. 

Hyfforddiant allanol 

Mae cyrsiau ar gael ar nifer o bynciau. Anfonwch e-bost at Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd i gael manylion.

Swyddi Cyngor Dinas Casnewydd

Ewch i dudalen swyddi Cyngor Dinas Casnewydd i weld y swyddi gwag diweddaraf.