Cymunedau Cadarn

Nod y tîm Cymunedau Cryf yw ymgysylltu â theuluoedd na fyddent fel arfer yn cael mynediad at wasanaethau, i chwalu rhwystrau a mynd i'r afael â Phrofiadau Plentyndod Niweidiol (PPN). 

Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu ymateb cyflym i gefnogi pobl sydd angen cymorth yn y gymuned i gael mynediad at wasanaethau cymorth mwy arbenigol lle bo angen a sicrhau newid cadarnhaol yn eu sefyllfa.

Gallwn gynnig cymorth i deuluoedd gyda gwasanaethau megis:

  • Ysgolion
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Budd-daliadau
  • Tai
  • Cyflogaeth
  • Cyfleoedd hyfforddiant

Dewch o hyd i’ch Hyb lleol

Beth gallwch ei ddisgwyl

Cynhelir cyfarfodydd dyrannu wythnosol ac, unwaith y dyrennir yr atgyfeiriad, bydd gweithiwr cymorth i deuluoedd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cyfleus i drafod eich anghenion, gan edrych ar y cryfderau a'r adnoddau sydd gennych chi a'ch teulu eisoes.

Gyda'n gilydd byddwn yn llunio cynllun cymorth ar gyfer eich teulu, gan weithio'n hyblyg, ac yn darparu gwasanaeth sy'n cyd-fynd â'ch anghenion a'ch ymrwymiadau.

Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i [email protected] a bydd y tîm mewn cysylltiad.

Lawrlwythwch Ffurflen hunanatgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf (doc)

Lawrlwythwch Ffurflen atgyfeirio gweithiwr proffesiynol Teuluoedd yn Gyntaf (doc)

Gweler yr hysbysiad preifatrwydd (pdf)