Plant a Phobl Ifanc

Cymorth a chyngor proffesiynol am ddim i deuluoedd.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc hyd at 25 oed sy'n byw yng Nghasnewydd ac mae’n cael ei harwain a'i chydlynu gan Wasanaeth Ieuenctid Casnewydd.

Nod cyffredinol Teuluoedd yn Gyntaf yw lleihau effaith tlodi drwy ddefnyddio dull amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Ydych chi

  • Rhwng 11 a 25 oed?
  • Yn byw yn ardal Casnewydd?

Ydych chi

  • Angen cymorth i gyrchu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth?
  • Yn gofalu am berson ifanc nad yw'n cyrraedd ei botensial academaidd llawn yn yr ysgol?
  • Yn nabod person ifanc nad yw’n mynychu’r ysgol yn rheolaidd neu ddim o gwbl?
  • Yn gofalu am berson ifanc sydd â phryderon iechyd rhywiol?
  • Yn nabod person ifanc sydd mewn perygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Gallwn ni helpu

Ein dull gweithredu yw darparu cymorth hyblyg un-i-un wedi'i deilwra'n bwrpasol i ddiwallu eich anghenion. Gyda'n gilydd gallwn lunio cynllun gweithredu a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich nodau – a lle bo'n briodol rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a gwasanaethau eraill fel eich bod yn cael y gorau o gymorth arbenigol.

Ein nodau yw:

  • Cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i barhau i gymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
  • Cyfrannu at lefelau cyrhaeddiad disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4
  • Cynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 11 sy’n cyrraedd y Lefel Trothwy (gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg)
  • Lleihau absenoldeb anawdurdodedig mewn addysg brif ffrwd

Yn ogystal, rydym hefyd yn anelu at gyfrannu at:

  • Leihau nifer y bobl ifanc sy’n dod i sylw’r Timau Troseddau Ieuenctid am y tro cyntaf
  • Lleihau'r cenedliadau ymysg pobl dan 16 oed drwy'r Cynllun Cerdyn C.

Beth gallwch ei ddisgwyl

Cynhelir cyfarfodydd dyrannu wythnosol ac, unwaith y dyrennir yr atgyfeiriad, bydd gweithiwr cymorth i deuluoedd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cyfleus i drafod eich anghenion, gan edrych ar y cryfderau a'r adnoddau sydd gennych chi a'ch teulu eisoes.

Gyda'n gilydd byddwn yn llunio cynllun cymorth ar gyfer eich teulu, gan weithio'n hyblyg, ac yn darparu gwasanaeth sy'n cyd-fynd â'ch anghenion a'ch ymrwymiadau.

Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i [email protected] a bydd y tîm mewn cysylltiad.

Lawrlwythwch Ffurflen hunanatgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf (doc)

Lawrlwythwch Ffurflen atgyfeirio gweithiwr proffesiynol Teuluoedd yn Gyntaf (doc)

Gweler yr hysbysiad preifatrwydd (pdf)