Adduned Rhianta Corfforaethol

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd ddyletswydd i fod yn rhiant da i bob plentyn yn ein gofal ac i'r rhai sy'n gadael gofal.

Rydym eisiau i'r bobl ifanc hyn gael yr un canlyniadau y byddai unrhyw rieni da eu heisiau i'w plant nhw.

Mae'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol (pdf) yn cyflwyno'r safonau uchel rydym ni'n anelu at eu cyflawni fel rhieni corfforaethol a'r camau byddwn ni'n eu cymryd i wneud hynny.

Hefyd, gallwch weld crynodeb o ganlyniadau ein hadduned yn Atodiadau'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol (pdf)

Rhan ganolog o hyn yw ein Hadduned i blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal.

Rydym yn addunedu i:

  • Roi lleoliadau sefydlog, o safon, i blant sy'n derbyn gofal, lle byddant yn teimlo'n ddiogel a lle bydd gofalwyr rhagorol yn gofalu amdanynt ac yn eu gwerthfawrogi
  • Sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cyflawni'r canlyniadau addysgol gorau posibl
  • Gwella canlyniadau iechyd plant sy'n derbyn gofal a rhoi gofal iechyd a chyngor priodol iddynt
  • Cynorthwyo ac annog plant sy'n derbyn gofal i fwynhau profiad eang o weithgareddau hamdden, diwylliannol, chwaraeon a chymdeithasol fel y gallant gyflawni eu potensial
  • Cynorthwyo plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal i baratoi ar gyfer y dyfodol a gwneud dewisiadau cadarnhaol o ran byw'n annibynnol, er mwyn dod yn aelodau llwyddiannus, llawn o gymdeithas.

Mae'r Fforwm Rhianta Corfforaethol yn monitro ac yn gwerthuso cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu ac yn sicrhau bod rhianta corfforaethol yn aros yn flaenoriaeth uchel.