COVID-19: Mynediad i fynwentydd
Mae gatiau i gerddwyr ar agor ym mynwentydd y cyngor ar ddyddiau'r wythnos rhwng 6.30am a 4.45pm.
Mae caniatâd i gerbydau ar ddyddiau Sadwrn a Sul o 6.30am tan 4.45pm.
Oriau agor y Nadolig:
Bydd gatiau mynwentydd Casnewydd ar agor i gerbydau o 24 tan 27 Rhagfyr ac o 31 Rhagfyr tan 2 Ionawr. O 4 Ionawr ceir mynediad i gerddwyr yn unig.
Yn union cyn ac yn ystod angladdau, bydd gatiau yn cael eu cau i alluogi staff i reoli nifer y galarwyr ar y safleoedd ac i sicrhau bod canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn.
Mae mynediad ar gyfer galarwyr a rhai sy’n tendio beddau yn unig, nid ar gyfer ymarfer corff nac i fynd â chŵn am dro. Dilynwch reolau cadw pellter cymdeithasol bob amser, darllenwch ein datganiad llawn
Mae’n bwysig peidio torri neu fynd drwy ffensys, gatiau sydd ar gau, ardaloedd sydd wedi'u cau gan rwystrau na chyfleusterau sydd ar gau. Mae eich iechyd a'ch diogelwch yn hollbwysig, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus.
Gwaith ym Mynwent Sant Gwynllyw
Ni fydd mynediad dros dro i'r ardal noddfa, sydd gyferbyn â'r porthdy ym mynwent Sant Gwynllyw, tra byddwn yn gwneud gwaith ehangu hanfodol i sicrhau y gallwn barhau i gefnogi a darparu gwasanaethau i'r gymuned, ar gyfer claddu a choffa.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cefnogaeth i'r gweithwyr allweddol yn y mynwentydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Angladdau
Covid-19: mae claddedigaethau ym mynwentydd Casnewydd yn parhau ar gyfer lleiniau beddi a archebwyd eisoes a lleiniau newydd.
Rydym yn parhau i geisio darparu ar gyfer claddedigaethau ar fyr rybudd i grwpiau ffydd neu arfer cydnabyddedig penodol, yn amodol ar adnoddau staff.
- Caniateir uchafswm o 30 o alarwyr ar gyfer angladdau mewn mynwent
- Caniateir uchafswm o 20 o alarwyr ar gyfer angladdau yn Amlosgfa Gwent
Mae hyn yn berthnasol i angladdau, gwasanaethau coffa a digwyddiadau ar gyfer pob grŵp ffydd mewn unrhyw fynwent o fewn pum ardal awdurdod lleol Gwent ac yn Amlosgfa Gwent.
Darllenwch Ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru ar angladdau
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gyfrifol am dair mynwent gyhoeddus:
- Caerllion – Cold Bath Road, Caerllion NP18 1NF
- Christchurch – Christchurch Road, Casnewydd NP18 1JJ
- Gwynllyw/St Woolos – 48 Bassaleg Road, Casnewydd, NP20 3PY
Os oes gennych ymholiad, cysylltwch ag arolygydd y fynwent ar (01633) 414915 neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd.
Download Newport Cemetery Management Guidance (pdf)
Download Cemetery and Garden of Rest Regulations (pdf)
Costau claddu
Lawrlwytho rhestr lawn o gostau mynwentydd Casnewydd 2020/2021 (pdf)
Download the Exclusive Right of Burial application (Word doc)
Download the Memorial Bench application (Word doc)
Dod o hyd i fedd
Er mwyn dod o hyd i fedd yn y mynwentydd uchod, ysgrifennwch i:
Mynwentydd, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR
Neu anfonwch e-bost at info@newport.gov.uk, gan roi enw'r unigolyn ac amcan o'i ddyddiad claddu.
Codir £19.46 am 30 munud o ymchwil.
Dog control order
There is a dog control order in operation in all Newport cemeteries.
Amseroedd agor
Mae gatiau i fynwentydd ar agor o 7.15am - 4.45pm i gerbydau drwy'r flwyddyn ac maen nhw ar agor drwy'r amser i gerddwyr.
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth.
TRA127037 20/20/2020