UK Plumbing Supplies

Mae UK Plumbing Supplies o Gasnewydd yn darparu offer a deunyddiau i blymwyr ledled y DU.

Y Rheolwr Gyfarwyddwr Chris Barnbrook sy’n rheoli datblygiad y cwmni gyda chyfuniad o archebu ar-lein, gwell gwybodaeth ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfleustra ar-lein

I fasnachwyr prysur fel plymwyr, nid yw cyfleustra archebu ar-lein yn rhywbeth sy'n "braf i'w gael" - mae'n hanfodol i'w galluogi i symud ymlaen a gwneud y gwaith.

Trwy ganiatáu i blymwyr proffesiynol archebu popeth y mae arnynt ei angen ar-lein heb orfod aros wrth y cownter, gallant arbed amser gwerthfawr.

'Y gwahaniaeth rhwng y cwmni a'r cwmnïau eraill sydd o gwmpas yw y gellir gwneud popeth ar eich ffôn, ar eich tabled, eich gliniadur, neu ar eich cyfrifiadur arferol yn y cartref.

Os ydych chi'n blymwr ar y safle, gallwch godi eich ffôn ac o fewn 10 munud gallwch archebu gwerth £100 o ddeunyddiau, a gallwn eu cael yn barod i’w casglu mewn hanner awr.'

Gwell gwybodaeth ar-lein

Mae'r rhyngrwyd yn llawer mwy na chatalog confensiynol sy’n gyflym i'w ddefnyddio. Mae fideos eisoes yn rhan bwysig o gynnwys ar-lein, a bydd hyn yn gynyddol bwysig wrth i fand eang cyflym iawn ddod yn fwy cyffredin.

Mae UK Plumbing Supplies eisoes yn canolbwyntio ar fideos fel rhan o'u proses werthu.

'Mae pobl yn hoffi gweld beth maen nhw'n ei brynu. Yn ddiweddar, gwnaethom fideo o foeleri nwy penodol sy'n dangos y gwaith mewnol, hanes y cwmni, dibynadwyedd, ayb. Yn hytrach na phrynu bocs gwyn, maent yn awr yn prynu rhywbeth y maent yn gwybod eithaf tipyn amdano, am eu bod wedi gweld y fideo.'

Ymagwedd bersonol

Mae strategaethau busnes ar-lein effeithiol yn rhan annatod o'r dull busnes cyffredinol, nid ychwanegiad a ystyrir ar wahân yn ddiweddarach. Mae datblygiadau megis cyfryngau cymdeithasol ar-lein yn cynyddu pwysigrwydd y dull integredig hwn, gan roi manteision mawr i fusnesau bach wrth gyflwyno ymagwedd fwy personol tuag at eu cwsmeriaid ledled y byd.

'Mae cael eich cwmni ar y rhyngrwyd yn anodd. Fy nghyngor i unrhyw un yw gwneud eich ymchwil eich hun ... Dros gyfnod o amser, mae'n gweithio. Rydw i nawr yn cyflenwi pobl yng Ngogledd Swydd Efrog, rwy'n anfon pethau i fyny i'r Alban, i lawr i Ddyfnaint, i bob man yn y wlad, a dweud y gwir. '

'Mae rhwydweithio cymdeithasol yn dod yn beth eithriadol o fawr yn y farchnad. Gyda llawer o ddyfalbarhad a gofal tyner ... gallwch ei wneud i weithio i chi.'

Cyfle i’r dyfodol

Dangosodd Chris Barnbrook y gall y rhyngrwyd wneud rhyngwyneb cwsmeriaid perffaith ar gyfer pob agwedd o’r busnes yn UK Plumbing Supplies - o ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol, i ddarparu gwybodaeth am gynnyrch, a phrosesu'r archebion gyda’r effeithlonrwydd mwyaf i bawb.

Dengys hefyd bod cyfle busnes llawer ehangach y tu hwnt i'w sylfaen yng Nghasnewydd. Gallent ddefnyddio hwn fel cyfle i ehangu yn draddodiadol, neu gallent bartneru â siopau plymio lleol eraill.