Canolfan Gemau NSP

Creu cymuned gemau...

Efallai bod gemau cyfrifiadurol cartref wedi lladd yr arcedau adloniant, ond mae Daniel Rumsey yng Nghanolfan Gemau NSP wedi dod o hyd i gyfle newydd i ddefnyddio dulliau modern yn yr arcedau.

 

 

Ochr gymdeithasol gemau

Bu chwarae gemau yn ddiwydiant enfawr ers blynyddoedd lawer, a gemau ar-lein yw'r datblygiad diweddaraf - gan ganiatáu i lawer o bobl gystadlu yn erbyn ei gilydd ledled y byd. Ond mae gemau ar-lein hyd yn oed wedi colli agwedd gymdeithasol chwarae gemau. Nod NSP yw ailsefydlu’r ochr gymdeithasol honno.

'Mae'r arcedau bellach yn farw. Mae pobl yn chwarae ar eu consolau, ond nid oes neb yn rhyngweithio ag unrhyw un mwyach. Felly dyna'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud – dod ag ochr gymdeithasol chwarae gemau yn ôl. '

'Mae'n ymddangos bod pawb yn chwarae ar-lein, felly rydych chi'n meddwl bod pobl yn fwy cymdeithasol. Ond rydych yn cael 32 o bobl yn chwarae ar-lein mewn gemau, ac nid oes neb yn siarad â'i gilydd mwyach. Mae gennym fwy o awyrgylch gyda phedwar o bobl yn y ganolfan na gyda 32 o bobl ar-lein.'

Dod â chymunedau at ei gilydd ar-lein

Gyda'r ochr gymdeithasol yn dychwelyd i chwarae gemau yn y ganolfan, mae gan y rhyngrwyd rôl hollbwysig o hyd - gan ddod â gwahanol gymunedau at ei gilydd ar-lein, a chaniatáu i bobl gymryd rhan hyd yn oed pan na allant ddod i'r ganolfan yn bersonol.

Gall canolfannau chwarae gemau gystadlu yn erbyn ei gilydd ar-lein, a gall y canolfannau gystadlu yn erbyn pencampwyr ledled y byd - gan ychwanegu dimensiwn newydd i chwarae gemau.

'Rydym eisiau mynd ar-lein ... rydym am osod siopau yn erbyn siopau, a hyd yn oed os na allwch chi fynd i'r siop, gallwch fynd i rywle sy'n lleol i chi - ble bynnag rydych chi'n byw, p'un ai yw yma neu ym Manceinion neu Lundain, gallwch barhau i gymryd rhan mewn rhai o'r twrnameintiau.'

Dilyniant hanfodol

Yn union run fath ag y mae’n hanfodol i fusnesau allu cael mynediad at eu data, a'i gadw'n ddiogel, mae gan y gymuned chwarae yr un angen.

Mae Gemwyr yn gyson eisiau gwella ar eu sgoriau gorau, neu barhau â gêm o un lleoliad i'r llall. Felly mae angen iddynt allu mynd â’u data gêm o un lleoliad i'r llall a chario ymlaen o’r fan honno.

Maent hefyd eisiau cadw data eu gemau gorau, a'i gadw'n ddiogel.

'Mae pobl eisiau parhau o'r lle y gadawsant y gêm yn eu cartrefi eu hunain ... a gallu cymdeithasu hefyd.'

Cymuned ar-lein

Yn union fel y mae'r ganolfan yn creu ymdeimlad o gymuned i wella'r profiad chwarae gemau ar-lein, mae cyfryngau cymdeithasol ar-lein yn cynnal yr ymdeimlad hwnnw o gymuned.

Gan ddefnyddio Twitter a Facebook, mae'r ganolfan yn creu ymdeimlad cryf o gymuned - gan roi gwybod i'r gemwyr am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, sgoriau uchaf newydd, a newidiadau i'r wal enwogrwydd ayb.

'Rydym ar Twitter, rydym yn ceisio llwytho ein fideos, ein lluniau, ein digwyddiadau ... os yw rhywun yn curo sgôr uchel ar gyfer ein wal enwogrwydd, rydym yn ei roi ar Twitter yn syth...'

Cyfle i’r dyfodol

Bydd band eang cyflym iawn yn dwyn ynghyd elfennau ar-lein ac all-lein o bob agwedd ar fywyd.

Mae Daniel yng Nghanolfan Gemau NSP wedi nodi cyfle perffaith i ganiatáu i’r elfennau ar-lein ac all-lein ategu ei gilydd yn berffaith - gan greu elfen gymdeithasol ac ymdeimlad o gymuned nad oedd mewn gwirionedd yn bodoli yn y fersiynau ar-lein neu all-lein pur.

Wrth i'r byd ar-lein ac all-lein cyfun hwn ddatblygu, ac i gemau'n dod yn fwy soffistigedig nag erioed, mae'r cyfleoedd yn enfawr.