Queensway Meadows a'r Leeway
Mae Queensway Meadows yn ystâd ddiwydiannol fodern 200 erw a leolir 2.5 milltir o Gyffordd 24 traffordd yr M4.
Mae’r meddianwyr mawr yn cynnwys Halo Foods, Tomoe Valve, British Car Auctions, Carlsberg-Tetley, Palletline ac Industrial Automation & Control (IAC) Ltd.
Mae unedau o 2,000 - 33,000 troedfedd sgwâr a dros 50 erw o dir datblygu ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal dros 80 erw o dir ehangu i’r dyfodol i'r dwyrain o Queensway Meadows.
Mae gan Barc Busnes Estuary Court ar Ystad Leeway unedau sy'n amrywio o 665 i 5,650 troedfedd sgwâr.
Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i fusnesau sy'n lleoli yn yr ardal hon trwy Lywodraeth Cymru.