Eiddo i'w osod

Eiddo busnes i'w rhentu yng Nghasnewydd

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd amrywiaeth o eiddo i’w rhentu, sef unedau diwydiannol yn Edwin Street, East Bank Road a Enterprise Way a swyddfeydd yn Beechwood House.

Cysylltwch â [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am y rhain yn ogystal â garejys sydd ar gael i'w rhentu yn y ddinas ar hyn o bryd.

Unedau diwydiannol

Mae'r rhain ar Edwin Street, Enterprise Way ac East Bank Road.

Mae llawer o'r adeiladau yn unedau pwrpasol i fusnesau sy'n cychwyn, sydd i'w defnyddio'n fasnachol neu'n ddiwydiannol, ac maen nhw'n amrywio o 35m² i 415m².

Cysylltwch â thîm busnes Cyngor Dinas Casnewydd i gael cyngor a chael gwybod am grantiau sydd ar gael.

Gofod swyddfa

Mae gofod swyddfa â gwasanaeth ar gael yn Nhŷ Beechwood, ym Mharc Beechwood, tua 1.5 milltir o ganol y ddinas, 3 milltir o Gyffordd 24 yr M4 ac ar lwybr bws lleol.  

Mae'r swyddfeydd yn amrywio o ran maint o tua 10m2 – 55m2 (100 tr2 – 600tr2) a chânt eu cynnig ar drwydded dreigl fisol gyda rhent cynhwysol yn cynnwys trydan, gwres a golau.

Mae ganddo ddesg dderbyn â chriw (yn ystod oriau swyddfa) ac mae gwasanaethau cymorth swyddfa ar gael am gost ychwanegol.  

Gallai rhai meddianwyr fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a dylai partïon â diddordeb gysylltu â'r adran ardrethi busnes yng Nghyngor Dinas Casnewydd am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â Thîm busnes Cyngor Dinas Casnewydd am gyngor ac argaeledd grant. 

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am swyddfeydd Beechwood House (pdf)

Eiddo ar werth 

I gael gwybod a yw'r cyngor yn berchen ar ddarn penodol o dir neu eiddo, ysgrifennwch at Newport Norse isod, gan gynnwys cynllun lleoliad os oes modd.

Os nad yw'r cyngor yn berchen ar y tir, fe allai'r Gofrestrfa Tir helpu.

Cysylltu

Newport Norse Property Services, 1st Floor Caradog House, Cleppa Park, Newport, NP10 8UG
E-bost: [email protected]
Ffôn: (01633) 240456

Mae Gwasanaethau Eiddo Newport Norse yn gyfrifol am:

  • Brisio eiddo'r cyngor
  • Rheoli unedau diwydiannol y cyngor
  • Prynu a gwerthu tir ac adeiladau
  • Pryniannau a phrydlesi tir ac adeiladau
  • Tresbasu ar dir y cyngor
  • Cyngor ar faterion eiddo i'r cyngor
  • Cynnal cofnodion eiddo'r cyngor ac ateb ymholiadau am berchenogaeth
  • Gwneud gwaith rheoli asedau ar gyfer eiddo'r cyngor
  • Rheoli portffolio ffermydd y sir
  • Rheoli Marchnad Casnewydd