Parc Busnes Langstone

Langstone Business Park

 

Mae Parc Langstone yn barc busnes 23 erw wedi ei leoli ar Gyffordd 24 traffordd yr M4.

Mae'r meddianwyr presennol yn cynnwys NFU Mutual.

Mae'r cyfleusterau'n cynnwys gwesty 4 seren Coldra Court gyda 149 o ystafelloedd gwely a chyfleusterau cynadledda ar gyfer hyd at 320 o gynadleddwyr.

Mae datblygiad modern Hafren yn cynnwys 5 uned sy'n amrywio o 3,000 i 12,000 troedfedd sgwâr.

Datblygodd Rombourne dros 60,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa o ansawdd uchel, gan gynnwys 12,000 troedfedd sgwâr Excalibur House a llety swyddfa â gwasanaeth yn Merlin House a Galahad House.

Datblygodd Netvox unedau swyddfa modern yn Nelson House, yn amrywio o 800 i 6,000 troedfedd sgwâr.

Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i fusnesau sy'n lleoli yn yr ardal hon trwy Lywodraeth Cymru.