Trwyddedau cerbyd

Darllenwch ein Polisi Cerbydau Haci a Llogi Preifat (pdf) cyn gwneud cais am drwydded.

Ni fydd Cyngor Dinas Casnewydd yn trwyddedu cerbydau a fewnforir gan nad ydynt yn cydymffurfio â’n polisi.

Rhaid i unrhyw gerbyd sydd wedi'i drwyddedu fel Cerbyd Hacni neu Gerbyd Llogi Preifat fod yn addas i gludo aelodau o'r cyhoedd a rhaid iddo gydymffurfio â’r manylebau cerbydau a nodir ym mholisïau'r Cyngor.

Gweld rhestr o’r cerbydau llogi preifat a dderbynnir gan y Cyngor (pdf) 

Os ydych yn aros am Fathodyn Gyrwyr Hurio Preifat arhoswch nes eich bod wedi cael caniatâd cyn mynd â'r cerbyd i gael ei brofi. Byddwch yn colli amser ar y drwydded.

 

Gofynion cerbydau safonol Ewropeaidd

Caiff ceisiadau am drwyddedau Cerbyd Hacni a Cherbyd Llogi Preifat newydd a throsglwyddiadau eu cymeradwyo dim ond ar gyfer cerbydau sy'n bodloni Safon Ewro 6. 

Caiff deiliad trwydded cerbyd presennol, h.y. perchennog sydd wedi dal trwydded gyfredol cyn cyflwyno'r polisi ac sydd wedi parhau i adnewyddu'r drwydded hon, newid y cerbyd ar y drwydded honno os yw'r cerbyd yn bodloni’r safonau Ewro 5 gofynnol.

Dim ond i newid cerbydau sy'n bodloni safon Ewro 6 y rhoddir trwyddedau cerbydau a roddir ar ôl cyflwyno'r polisi.

Safonau Ewro

 Safon Ewro

    Adeg gyflwyno

 Ewro 2

    Ionawr 1996

 Ewro 3

    1 Ionawr 2000 tan 31 Rhagfyr 2004

 Ewro 4

    1 Ionawr 2005 tan 31 Awst 2009

 Ewro 5

    1 Medi 2009 tan 31 Awst 2015

 Ewro 6

    1 Medi 2015

Cyflwynodd rhai gweithgynhyrchwyr cerbydau y safonau Ewro i'w cerbydau cyn y dyddiadau hyn felly mae'n bosibl, er enghraifft, y gellid sgorio cerbyd fel Ewro 6 cyn 1 Medi 2015 yn dibynnu ar y gwneuthuriad a’r model. 

Lawrlwytho’r amodau ar gyfer cerbydau hacni (pdf)

Lawrlwytho’r amodau ar gyfer cerbydau llogi preifat (pdf)

Gwybodaeth ychwanegol

TCC a Chamerâu Dash

Gall systemau TCC greu amgylchedd diogelach i yrwyr a theithwyr trwy: 

  • atal troseddau

  • lleihau ofn trosedd

  • helpu’r heddlu i ymchwilio i droseddau

  • cynorthwyo cwmnïau yswiriant sy'n ymchwilio i ddamweiniau cerbydau modur

Mae hefyd yn galluogi teithiwr ychwanegol i eistedd yn sedd flaen Cerbyd Hacni.  

Os hoffech osod TCC mewn cerbyd trwyddedig, rhaid i chi gydymffurfio Polisi CCTV (pdf) Cyngor Dinas Casnewydd.

Pan fod offer TCC wedi’i osod, rhaid i berchennog trwydded y cerbyd a’r unigolyn a osododd yr offer lofnodi’r Cod Ymarfer.

Os oes angen, dylai’r rheolydd data lofnodi hefyd ac yna dylai’r ddogfen gael ei rhoi i’r adran drwyddedu.

Mae systemau VPIS a elwir hefyd yn gamerâu dash cerbyd yn gamerâu wyneb allanol sy'n recordio lluniau y tu allan i'r cerbyd. Cânt eu defnyddio i ddal ffilm os bydd y cerbyd yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffordd.

Mae ganddynt lawer o fanteision megis nodi pwy sy'n gyfrifol am achosi damwain, darparu tystiolaeth, datrys anghydfodau, ac mewn rhai achosion, gall ostwng premiymau yswiriant.

Sylwch, os ydych yn dymuno gosod camera dashfwrdd o fewn Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni, rhaid i chi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Pholisi Chamerâu Dash (pdf) Cyngor Dinas Casnewydd.